Dynes wedi'i hedfan i'r ysbyty ar ôl disgyn yn y Bannau

  • Cyhoeddwyd
Sgwd y PannwrFfynhonnell y llun, Stuart Wilding | Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae ardal rhaeadr Sgwd y Pannwr wedi dod yn fan poblogaidd gydag ymwelwyr

Cafodd dynes ei hedfan i'r ysbyty wedi iddi ddisgyn ac anafu ei chefn a'i braich ger rhaeadr ym Mannau Brycheiniog ddydd Sadwrn.

Bu'n rhaid i'r ddynes gael ei hachub o ardal rhaeadr Sgwd y Pannwr - man poblogaidd gydag ymwelwyr.

Cafodd y ddynes ei winsio i hofrennydd gwylwyr y glannau a'i hedfan i'r ysbyty ond does dim gwybodaeth am ei chyflwr.

Cyn penwythnos Gŵyl y Banc fis diwethaf fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog rybuddio ymwelwyr i gadw draw o'r ardal.

Wythfed galwad yr wythnos

Dywedodd Tîm Achub Mynydd Canol y Bannau mai dyma'r wythfed gwaith i'w gwirfoddolwyr gael eu galw i ddigwyddiad mewn wythnos, a'r ail yn ardal y rhaeadrau.

Yn ôl Penny Brockman o'r gwasanaeth mae hi wedi bod yn haf prysur, gyda chynnydd yn nifer yr ymwelwyr ers dechrau'r pandemig.

Dywedodd bod nifer o gerddwyr wedi cael eu hanafu wrth faglu neu ddisgyn, tra bod eraill wedi gorfod cael eu tywys i le diogel ar ôl mynd ar goll.

"Yn ffodus, dydy pobl ddim wedi cael eu hanafu'n ddifrifol," meddai.