Peiriant anadlu o Gymru yn cael ei brofi yn Bangladesh

  • Cyhoeddwyd
Dr Rhys Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Rhys Thomas yn feddyg ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili

Mae peiriant anadlu newydd i drin cleifion Covid-19, sydd wedi ei ddatblygu yn Sir Gaerfyrddin, bellach yn cael ei brofi yn Bangladesh.

Mae 35 o beiriannau C-PAP a ddyfeisiwyd gan y meddyg ymgynghorol Dr Rhys Thomas a'r peiriannydd Maurice Clarke yn cael eu defnyddio yn yr Ysbyty Athrofaol yn ninas Dhaka.

Yn ôl yr Athro AKM Akhtaruzzaman o Ysbyty Athrofaol Bangabandhu Sheik Mujib, mae'r canlyniadau cychwynnol yn "addawol iawn" ac mi allai'r ddyfais fod yn "garreg filltir" yn y driniaeth ar gyfer Covid-19.

Bu'n rhaid profi'r ddyfais ar gleifion yn Bangladesh am fod y nifer o gleifion yng Nghymru oedd angen triniaeth mewn ysbytai wedi prinhau.

"Dechreuon ni siarad gyda doctoriaid mas yn Bangladesh, a roedden nhw yn really pryderus achos roedd miloedd a miloedd yn dechrau mynd yn sâl gyda Covid," meddai Dr Thomas.

"Fe grëwyd partneriaeth rhwng ni a'r doctoriaid yn Dhaka, er mwyn i ni gael gwneud ein harbrofion ond hefyd i Bangladesh gael ein peiriannau, a fel bod ni'n dau yn cael bendith mas o hyn.

"Nawr, beth maen nhw wedi gweld yw bod effaith y peiriannau C-PAP, a trin y cleifion yn gynnar, mae'r canlyniadau yn amazing. Mae'n rhaid trin y cleifion yn gynnar. Chi methu aros tan bod hi'n rhy hwyr."

Mae'n dweud bod hi'n allweddol i bobl gadw golwg ar ei lefelau ocsigen yn y gwaed, os ydyn nhw yn amau bod nhw'n dioddef o Covid-19.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddyfais wedi ei chreu o gopr, am ei fod yn lladd y feirws

Mae cleifion sydd yn cael eu trin gan y peiriannau newydd yn aros ar ddihun - yn wahanol i beiriant anadlu, pan mae pibell yn cael ei osod yng ngwddf y claf.

Mae'r ddyfais wedi ei chreu o gopr, am ei fod yn lladd y feirws, ac mae ganddo sawl hidlydd i leihau'r perygl y bydd cleifion yn lledu'r feirws wrth ei defnyddio.

Dywedodd Maurice Clarke, y peiriannydd sydd wedi bod yn cydweithio gyda Dr Rhys Thomas yn Rhydaman: "Mae'r potensial yn anferth. Beth sydd yn cyffroi fi yw fe all gynorthwyo pobl sydd yn dioddef o'r feirws."

Mae'r ddau yn gobeithio sicrhau buddsoddiad sylweddol er mwyn cynhyrchu'r ddyfais, os ydy'r profion clinigol yn Bangladesh yn llwyddiannus.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol