Ateb y Galw: Yr awdur a chyflwynydd Anni Llŷn

  • Cyhoeddwyd
Anni Llŷn

Yr awdur a chyflwynydd Anni Llŷn sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Lois Cernyw yr wythnos diwethaf.

Mae Anni yn gyfarwydd fel cyflwynydd teledu ar raglenni fel Stwnsh ar S4C, fel bardd - hi oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2015 a 2017 - ac mae hi hefyd wedi ysgrifennu nifer o lyfrau i blant a phobl ifanc.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'n meddwl mod i'n cofio eistedd ar y soffa i afael yn fy chwaer fach, Megan, pan o'dd hi'n fabi go fychan felly mi faswn i wedi bod tua pedair oed. Roedd hi'n sgrechian crio o be' dwi'n gofio!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Dwi wastad wedi ffansio Will Smith.

Disgrifiad o’r llun,

Y bythol-ifanc, Will Smith

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mi nes i afael ym mhen ôl tad cyn-gariad i mi yn meddwl mai fy nghariad i oedd o. O mam bach... dwi dal yn gwingo wrth feddwl am y peth!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Wel... 'na i'm gwadu fod 'na ddeigryn wedi dod pan wnaeth Eigra, fy mabi 7 mis oed, fy mrathu tra o'n i'n ei bwydo o'r fron diwrnod o'r blaen ynde.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Trio gwneud gormod.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dwi'm yn gallu ateb y cwestiwn yma... mae Cymru yn llawn llefydd gwerth chweil. Mae'n dibynnu pa hwylia sydd arna i dwi'n meddwl. Ond dwi'n caru bod adra'n Garnfadryn pa bynnag dempar sydd arna i.

Ffynhonnell y llun, Emyr Young

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ooooo... dwi wedi cael nosweithia' gwych dros y blynyddoedd. Noson fy mhriodas, nosweithia' pan o'n i'n y brifysgol, gigs amrywiol, yn Steddfod, pan o'n i'n Vietnam efo Tudur... alla i'm dewis.

O archif Ateb y Galw:

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Nes i gael medal arian drwy Gymru am wneud gymnasteg pan o'n aelod o Glwb Gymnasteg Eryri, pan o'n i'n yr ysgol.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Tebyg i Mam.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Alla i ddim dewis hoff lyfr. Ond os dwi'n meddwl am lyfrau diweddar, mi wna i ddeud fod Babel, Ifan Morgan Jones - wnaeth ennill Llyfr y Flwyddyn - yn wych.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ifan Morgan Jones lawer o lwyddiant eleni gyda'i nofel Babel

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Chwarae efo fy mhlant. Trefnu rhywsut mod i'n cael bwyd bendigedig, pedwar cwrs a gwin, ar ben Garnfadryn. Ysgrifennu nofel wych. Mynd i gig rhywun fel Cowbois Rhos Botwnnog. Nofio'n y môr. Gwylio cynhyrchiad theatr trawiadol. Trafod llenyddiaeth efo rhywun difyr. A chael amser i sgwrsio efo pob un dwi'n garu, yn deulu a ffrindia'.

Beth yw dy hoff gân a pham?

Alla i ddim dewis un gân. Ond er mod i'n sgwennu ac yn mwynhau geiriau, dwi'n meddwl mai camp y gerddoriaeth sy'n fy nghael i yn y caneuon dwi'n fwynhau fwyaf.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Cranogwen. Wnaeth hi gyflawni cymaint mewn oes nad oedd pobol na chymdeithas yn credu y dylai nac y gallai dynes wneud beth wnaeth hi. 'Swn i'n licio dod i adnabod ei chymeriad a'i chythraul, a dallt beth oedd yn ei gyrru hi.

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Cranogwen, neu Sarah Jane Rees - llenor, athrawes, ymgyrchydd, arloeswraig

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Cwrs cyntaf - rhywbeth na dwi 'rioed wedi drio o'r blaen... o bosib rhywbeth efo cig chwadan ynddo.

Prif gwrs - stecen dda, tatws dauphinoise, llysia' wedi rhostio.

Pwdin - mi fasa'n rhaid i mi gael Pavlova Mam a wedyn rhywfaint o gaws i orffen.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Hmmm... JK Rowling ella?

Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?

Guto Dafydd

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw