Prifysgol Bangor: 200 o swyddi mewn perygl yn sgil colledion
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Bangor wedi dechrau ar broses o ymgynghori gyda staff yn dilyn colledion ariannol yn sgil y pandemig.
Mae staff yn y brifysgol wedi cael gwybod bod y sefydliad yn wynebu colledion o £13m ac y gallai hyd at 200 o swyddi fod yn y fantol.
Mae'r brifysgol, sy'n cyflogi tua 2,000 o bobl, yn obeithiol o gael cymorth ariannol o gronfa £50m Llywodraeth Cymru.
Dywed gwleidyddion lleol y byddai'r colledion yn "ergyd", gyda'r Aelod Seneddol lleol yn dweud nad oedd yr "anrhefn" o amgylch canlyniadau Safon Uwch eleni wedi helpu.
Y llynedd bu'n rhaid i'r brifysgol wneud diswyddiadau yn sgil cyhoeddiad y byddai'n rhaid gwneud arbedion gwerth hyd at £5m.
Fis diwethaf, dywedodd cyn is-Ganghellor prifysgol ac ymgynghorydd addysg uwch bod prifysgolion Cymru'n wynebu "storm berffaith" a allai arwain at "broblemau go iawn" yn y dyfodol yn sgil y pandemig.
Dywedodd yr Aelod o'r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian fod y newyddion yn "yn ergyd enfawr i'r ardal, ac mae cyfnod pryderus o'n blaenau, i staff a'u teuluoedd".
"Rwy'n gobeithio y gall y brifysgol fanteisio ar y pecynnau cymorth Covid-19 sydd ar gael ac y gellir amddiffyn cymaint o swyddi â phosibl," meddai.
"Mae Prifysgol Bangor yn gyflogwr sylweddol a phwysig i'r ardal, ac yn hanfodol wrth ddatblygu'r economi leol trwy ymchwil a darparu sgiliau hanfodol ar gyfer gweithlu'r dyfodol."
Ychwanegodd Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon: "Mae hon yn ergyd drom ac yn peri ansicrwydd i'r rhai sy'n wynebu colli eu swyddi.
"Mawr obeithiaf ei bod yn bosib lliniaru yr effaith ar staff trwy ddiswyddiadau gwirfoddol, er ofnaf nad oes fawr o le i wneud hyn o ystyried toriadau blaenorol.
"Mae'r rhain yn amseroedd anhygoel o heriol i bawb, ac mae prifysgolion wedi bod yn agored i effaith ariannol pandemig Covid-19 ar draws nifer o feysydd, gan gynnwys colli incwm ffioedd dysgu rhyngwladol.
"Rwy'n ofni nad yw'r anhrefn o amgylch canlyniadau Lefel A yn Lloegr wedi bod o help, a gall hyn fod wedi arwain at rai myfyrwyr yn dargyfeirio i brifysgolion eraill."
Beth mae'r brifysgol yn ei ddweud?
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor: "Mae Prifysgol Bangor wedi mynd ati'n rhagweithiol dros y misoedd diwethaf i barhau i gynnig profiad da i fyfyrwyr a lleihau effaith Covid-19 ar ein gwaith.
"Fodd bynnag, er gwaethaf hynny, rydym yn rhagweld y bydd diffyg mewn incwm yn 2020/21, yn ymwneud yn bennaf â recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, sy'n golygu bod angen i ni chwilio am arbedion.
"Felly mae'r brifysgol wedi cychwyn ar gyfnod o ymgynghori ynglŷn â'r ffordd orau o gyflawni'r arbedion hynny.
"Hanfod y brifysgol yw'n myfyrwyr a'n blaenoriaeth wrth wneud unrhyw newidiadau fydd sicrhau bod eu profiad nhw nid yn unig yn cael ei warchod ond yn cael ei wella.
"Er bod hwn yn gyfnod heriol iawn, mae hefyd yn gyfle i arloesi a wynebu'r dyfodol ar ôl Covid-19 yn gryfach fel sefydliad blaenllaw ym maes addysg uwch ac yn economi gogledd Cymru a thu hwnt."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd7 Awst 2020
- Cyhoeddwyd28 Awst 2020