Rhestrau aros deintyddion yn 'enfawr' wedi cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
DeintyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae deintyddion yn ymladd i ddelio gyda rhestrau aros "enfawr" ac fe allai fod yn 2021 cyn iddynt ddal i fyny, yn ôl arweinydd yn y maes.

Rhybuddiodd hefyd y gallai rhai deintyddfeydd orfod cau gan y bydd rheolau Covid-19 yn golygu y gallan nhw weld llai o bobl bob dydd.

Dywedodd cadeirydd pwyllgor Cymreig y Gymdeithas Ddeintyddol Brydeinig (CDB), Tom Bysouth, bod problemau dannedd yn gwaethygu oherwydd yr aros, ac mae achosion o ganser y ceg yn cael eu methu.

Mae'r CDB wedi galw am fwy o gefnogaeth ariannol.

Dywedodd y llywodraeth ei bod wedi cynnig cymorth hael i fusnesau.

2021 cyn dal i fyny

Dywedodd Mr Bysouth bod deintyddion yn blaenoriaethu'r gofal mwyaf brys.

"Bydd yn cymryd amser hir i ddal fyny," meddai. "Petai ni mewn amgylchiadau arferol byddai'n cymryd o leia' chwe mis arall."

Ychwanegodd: "Ond os ydy hi'n aros yr un peth, ni fyddwn yn dal fyny yn 2020, bydd hi'n 2021."

Mae Mr Bysouth hefyd yn pryderu nad yw pobl yn cael apwyntiadau rheolaidd, ac y gallai arwyddion o gyflyrau difrifol fel canser y ceg gael eu methu, a bod tyllau mewn dannedd yn gwaethygu gymaint fel nad oes modd eu llenwi.

"Cyn y cyfnod clo, byddai deintyddfa arferol gyda thri deintydd yn gweld tua 60 i 80 o bobl y dydd, ond mae hynny wedi lleihau'n enfawr er mwyn cydfynd â'r rheolau pellhau cymdeithasol."

'Poen ofnadwy ers tri mis'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Maxine Bullock o Lantrisant, Rhondda Cynon Taf, yn gobeithio cael tynnu dannedd fis nesaf ar ôl aros mewn poen "arswydus" am dros chwe mis.

"Roedd fy apwyntiad dri diwrnod ar ôl y cyfnod clo. Bellach dwi angen tri dant allan yn lle dau ac mae'r boen wedi bod yn ofnadwy ers tri mis."

Dywedodd Sue O'Connor o'r Trallwng, Powys, ei bod yn aros ers mis Hydref diwethaf i dynnu dant.

"Mae'r dant roedden nhw'n trio ei achub bellach wedi torri a hanner ar goll."

Roedd rhai deintyddfeydd yn gweld cyn lleied ô 10 claf y dydd, ac mae rheolau newydd Llywodraeth Cymru, dolen allanol ynglŷn ag awyru yn golygu y gallai deintyddion weld claf newydd bob 20 munud yn hytrach na bob awr.

Er hynny, mae'n rhagweld y bydd deintyddfeydd sy'n gwneud cyfran uwch o waith preifat mewn perygl.

"Mae 'na risg y bydd rhaid i rai gau, diswyddo staff neu lleihau eu horiau.

"Fel unrhyw fusnes, mae'n rhaid bod yn gynaliadwy. Maen nhw'n fregus fel busnesau."

Diwedd ffyrlo yn 'her sylweddol'

Mae'r CDB yn amcan bod nifer y cleifion gafodd eu gweld dros y cyfnod clo wedi cwympo 98%, a gyda deintyddfeydd yn cael eu talu am bob un yn unigol, dywedodd y gymdeithas ei fod yn "amhosib" i rai aros ar agor.

Galwodd y gymdeithas am gymorth gyda threthi fel mae busnesau eraill wedi ei gael, ac y byddai diwedd y cynllun ffyrlo yn "her sylweddol".

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cynnig y pecyn cymorth busnes mwyaf hael yn y DU.

Ychwanegodd llefarydd: "Mae'n glir bod Llywodraeth y DU angen camu i'r adwy a chynnig cyllid ychwanegol i fusnesau yn ystod y pandemig."

Dywedodd Trysorlys y DU bod cynlluniau ffyrlo a chymorth i weithwyr hunangyflogedig wedi amddiffyn swyddi deintyddol, ac y byddai cwmnïau'n derbyn bonws o £1,000 am bob aelod o staff sy'n cael eu cadw.