Addewid i ystyried gwlân mewn adeiladau cyhoeddus

  • Cyhoeddwyd
Goson gwlân i insiwleiddioFfynhonnell y llun, Jasmin Merdan
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib defnyddio gwlân i insiwleiddio cartrefi ac adeiladau eraill

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi addewid i ystyried defnyddio gwlân Prydeinig i insiwleiddio adeiladau cyhoeddus, wedi i filoedd arwyddo deiseb yn galw ar bob un o weinyddiaethau'r DU i ddefnyddio'r cynnyrch mewn prosiectau cyhoeddus.

Daw'r cyhoeddiad wedi i'r undeb amaeth, NFU Cymru ysgrifennu at y gweinidog tai gan apelio am fwy o gefnogaeth i'r sector.

Roedd British Wool wedi rhybuddio fod yna gwymp sylweddol yn y galw am wlân wrth i lai o bobl a busnesau archebu carpedi newid yn sgil y pandemig.

Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn gofyn am ymroddiad i ddefnyddio gwlân Cymreig mewn prosiectau insiwleiddio tai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pandemig wedi cael effaith ddifrifol ar y galw am wlân

Roedd bron i 28,000 o bobl wedi arwyddo'r ddeiseb hyd at fore Sadwrn yn galw ar bob un o lywodraethau'r DU i ddefnyddio cynnyrch gwlân Prydeinig mewn prosiectau cyhoeddus.

Mewn ymateb i ymgyrchwyr, dywedodd Gweinidog Materion Gwledig Cymru, Lesley Griffiths: "Rwy'n falch i ddweud fod tîm rheoli adnoddau Llywodraeth Cymru ei hun wedi ymroddi i ystyried defnydd ehangach o wlân ar ein hystâd yn y dyfodol, yn amodol ar y profion a'r ardystiadau angenrheidiol."

Ond dywedodd llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch-Saunders, fod "agwedd oddefol" Llywodraeth Cymru at ddefnyddio gwlân Cymreig mewn cynlluniau insiwleiddio yng Nghymru yn destun pryder. Mae'n galw am "ymroddiad mwy pendant".

Mewn llythyr at Ms Griffiths, dywedodd Ms Finch-Saunders fod ffermwyr yn wynebu sefyllfa "dorcalonnus", gan wneud gymaint o golled ar eu gwlân ar ôl talu costau cneifio.

"Penderfyniad hawdd"

Mae Jackie Whittaker, perchennog busnes cynhyrchu caws yn Rhuddlan, yn Sir Ddinbych, yng nghanol trawsnewid garej yn hufenfa.

Penderfynodd ei insiwleiddio gyda gwlân ar ôl dod ar draws y ddeiseb a dysgu bod y fath beth yn bosib.

Ffynhonnell y llun, Jackie Whittaker
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jackie Whittaker yn defnyddio gwlân i insiwleiddio'r gareg sy'n cael ei drawsnewid yn hufenfa

"Mae angen codi ymwybyddiaeth ei fod ar gael - efallai fyddai pobl yn prynu mwy ohono," meddai.

"Mae'n warthus fod ffermwyr yn cael cyn lleied am wlân yn ystod y pandemig."

"Dydy o ddim yn arbennig o ddrud o'i gymharu ag mathau eraill o insiwleiddio - falle'n bunt neu ddwy'n ddrytach ond mae'n benderfyniad hawdd, mewn gwirionedd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio "i liniaru effeithiau Covid-19" ar ffermio, a bod defnyddio gwlân mewn cynlluniau adeiladu "eisoes wedi ei gydnabod".

Ychwanegodd: "Tra ein bod yn parhau i annog y sector gwlân i ddatblygu hyn yn unol â'r galw, mae yna reolau o ran defnyddio deunyddiau penodol wrth godi adeiladau. Gelli defnyddio gwlân cyn belled â'i fod yn ufuddhau gofynion technegol y fath reolau."