Galw ar y llywodraeth i flaenoriaethu gwlân o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Gwlân
Disgrifiad o’r llun,

Mae galw am gynyddu'r defnydd o wlân o Brydain mewn adeiladau cyhoeddus

Mae cwymp "trychinebus" yn y galw am wlân o Gymru wedi arwain at alwadau i flaenoriaethu ei ddefnydd mewn adeiladau cyhoeddus a chynlluniau inswleiddio'r llywodraeth.

Rhybuddiodd NFU Cymru bod y pris sy'n cael ei dalu i ffermwyr wedi "chwalu'n llwyr" o ganlyniad i'r pandemig.

Mae'r undeb bellach wedi ysgrifennu at y gweinidog tai yn gofyn am fesurau i gefnogi'r sector.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bu'n gweithio'n gyson gyda'r diwydiant amaeth i liniaru effeithiau Covid-19.

'Problemau mawr'

"Daeth popeth i stop ym mis Chwefror ac mae wedi achosi problemau mawr," meddai John Davies, aelod bwrdd rhanbarthol De Cymru British Wool.

"Rydyn ni'n gwerthu rhyw 25% o beth ni'n cynhyrchu i China - caeodd y farchnad yna yn llwyr ac wedyn caeodd pob man ym Mhrydain hefyd.

"Mae'n rhaid ni gofio bod lot o wlân Cymru yn mynd i wneud carpedi, ac mae'r gwestai mawr wedi bod ar gau tan nawr ac yn annhebygol o fuddsoddi mewn carpedi newydd - y cruise liners 'run fath.

"Mae'n drychinebus ar hyn o bryd a dweud y gwir."

Disgrifiad o’r llun,

"Daeth popeth i stop ym mis Chwefror" oherwydd coronafeirws, meddai John Davies

Mae'r sefyllfa wedi sbarduno deiseb ar-lein wedi'i chyfeirio at bob un o lywodraethau'r DU sy'n galw am weithredu i gynyddu'r defnydd o wlân o Brydain mewn adeiladau cyhoeddus ac fel rhan o gynlluniau i inswleiddio cartrefi.

Dywedodd Wyn Evans, cadeirydd Bwrdd Da Byw NFU Cymru ei fod wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i wneud yr un gofynion.

"Mae'r argyfwng yn y marchnadoedd gwlân yn golygu taw dim ond cyfran fach o'u costau cneifio yw'r pris mae ffermwyr yn ei gael am eu gwlân," meddai.

"Dwi wedi cael cheque eleni am £60 - am 320 o ddefaid sydd wedi'u cneifio - dyw e'n ddim byd. Mae'n drist lle mae'r diwydiant gwlân wedi mynd.

"Ni wedi 'sgrifennu llythyr at y llywodraeth i holi am insulation - yn y gobaith y gwneith hynny roi mwy o werth ar y cynnyrch.

"Mae'n rhaid ni gofio bod hwn yn gynnyrch gwych, amgylcheddol, sy'n tyfu'n naturiol - mae'n rhoi gwaith i'r person sy'n bugeilio, i'r person sy'n cneifio, i'r person sy'n symud y gwlân, ei brosesu a'i drin.

"Dylai Llywodraeth Cymru fod yn cefnogi fe 100%."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Wyn Evans ei fod wedi cael £60 am wlân 320 o ddefaid

Yr angen i leihau defnydd ynni a thorri allyriadau nwyon tŷ gwydr sydd wedi arwain at ymgyrchoedd insiwleiddio ar draws y DU.

Yn ôl Nigel Gervis, cyfarwyddwr cwmni Tŷ-Mawr Lime yn Aberhonddu, sy'n arbenigo mewn insiwleiddio gwlân, "synnwyr cyffredin" ydy canolbwyntio ar ffibrau naturiol sydd wedi'u cynhyrchu yn lleol.

"Ry'n ni gyd yn dod yn fwy ymwybodol o'r hyn ry'n ni'n rhoi fewn i'n hadeiladau," meddai.

"Un o'r problemau gyda'r dewisiadau amgen, modern yw nad yw eu heffaith ar yr amgylchedd yn cael eu ffactora yn y pris.

"Os gallwn ni wneud e [gwlân] yn fwy hygyrch mae ganddo rôl enfawr i'w chwarae mewn insiwleiddio - boed hynny'n ôl-ffitio neu mewn adeiladau newydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Nigel Gervis yn credu bod gan wlân "rôl enfawr i'w chwarae mewn insiwleiddio"

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae penderfyniad British Wool i beidio â gwneud taliadau ymlaen llaw i ffermwyr yn 2020 yn adlewyrchu'r anhawster sy'n wynebu'r sector gwlân ar hyn o bryd.

"Rydym yn parhau i weithio gyda'r diwydiant ffermio a rhanddeiliaid i helpu i liniaru effeithiau Covid-19 ac i gefnogi eu proffidioldeb a'u gwydnwch hirdymor.

"Bydd datgarboneiddio ein cartrefi a'n hadeiladau yn cynnig cyfleoedd sylweddol i adfer yr economi werdd yng Nghymru.

"Gan fod gwlân eisoes yn fesur inswleiddio sefydledig, ar yr amod ei fod yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu - byddem yn annog British Wool i weithredu'n gyflym i ddatblygu'r farchnad hon ymhellach."