Achos diffyg Cymraeg gan gwmni trenau i fynd i dribiwnlys
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidogion Cymru'n apelio yn erbyn dyfarniad Comisiynydd y Gymraeg eu bod wedi torri'r gyfraith drwy beidio â sicrhau gwasanaethau Cymraeg i deithwyr trenau Trafnidiaeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio'r mater at Dribiwnlys y Gymraeg gan ddweud eu bod yn "anghytuno" â chasgliadau adroddiad terfynol y comisiynydd, Aled Roberts.
Maen nhw'n herio'r casgliadau ar y sail nad oes rhaid i'r cwmni sy'n darparu gwasanaethau trên ar eu rhan, Keolis Amey, gydymffurfio â'r un safonau â gweinidogion y llywodraeth.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae'r penderfyniad yn "sgandal", ac mae swyddfa'r comisiynydd yn dweud na allai drafod yr ymchwiliad tra bydd y tribiwnlys yn ystyried yr apêl.
Yn ôl Mr Roberts, roedd y methiannau a ddaeth i'w sylw yn cynnwys:
Cyhoeddiadau sain uniaith Saesneg;
Diffyg fersiwn Cymraeg o ap Trafnidiaeth Cymru;
Tudalen we oedd ddim yn adnabod enwau Cymraeg gorsafoedd;
Tocynnau trên uniaith Saesneg;
Dewisiadau Saesneg ar beiriant hunanwasanaeth yng ngorsaf Caerdydd Canolog er i'r achwynydd ddewis yr opsiwn Cymraeg;
Gohebiaeth uniaith Saesneg.
'Anghytuno gyda'r comisiynydd'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er ein bod ni'n anghytuno gyda'r comisiynydd ar y mater penodol hwn, rydyn ni'n gefnogol ac yn annog ymdrechion i wneud gwasanaethau trafnidiaeth yn fwyfwy dwyieithog.
"Nid yw Safonau'r Gymraeg sydd yn gymwys i weinidogion Cymru yn berthnasol i wasanaethau sy'n cael eu darparu gan Keolis Amey, sydd yn dal y rhyddfraint rheilffyrdd ar gyfer Cymru a'r Gororau.
"Dyna pam rydyn ni'n cyfeirio'r mater at Dribiwnlys y Gymraeg."
Ychwanegodd bod Keolis Amey yn darparu gwasanaethau dwyieithog, a bod y llywodraeth a'i his-gwmni, Trafnidiaeth Cymru "wedi ymrwymo i wella a chynyddu'r gwasanaethau yma sydd ar gael i deithwyr trenau".
Maen nhw hefyd, meddai, "wedi dechrau paratoi set benodol o reoliadau" yn gosod Safonau'r Gymraeg ar gyfer y sector rheilffyrdd "yn ystod tymor y Senedd nesaf".
Bydd y rheoliadau yma'n "ei gwneud hi'n ofynnol i bob darparwr gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru gynnig gwasanaethau yn Gymraeg".
'Tanseilio hawliau iaith'
Mae'r sefyllfa "yn gywilyddus", yn ôl David Williams o Gymdeithas yr Iaith.
"Yn lle defnyddio eu hadnoddau i gryfhau'r iaith, mae'n llywodraeth ni'n treulio'u hamser ac yn gwario ein harian ar danseilio hawliau pobl i'r Gymraeg," meddai.
"Mae'r llywodraeth wedi bod yn oedi rhag ymestyn Safonau'r Gymraeg i'r maes trafnidiaeth ers blynyddoedd, gan ddweud nad oes digon o gyfreithwyr i wneud y gwaith.
"Fodd bynnag, pan ddaw hi at ffeindio cyfreithwyr i danseilio ein hawliau iaith, ymddengys bod hen ddigon ohonyn nhw."
Ychwanegodd: "Dyw hi ddim yn dderbyniol i'r llywodraeth dorri'r gyfraith na chaniatáu i'r cwmni yma amddifadu pobl o hawliau sylfaenol i weld, clywed a defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd."
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg: "Gall unigolion neu sefydliadau sydd yn anfodlon gyda dyfarniad y comisiynydd apelio i Dribiwnlys y Gymraeg.
"Tra bydd y tribiwnlys yn ystyried yr apêl, ni all y comisiynydd drafod yr ymchwiliad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2018