Achos ffrwydron: 'Diddordeb mewn goruchafiaeth wyn'

  • Cyhoeddwyd
Trimasaran
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Russell Wadge ei arestio gan swyddogion gwrthderfysgaeth ar Fferm Baglan yn Nhrimsaran

Clywodd rheithgor fod gan ddyn o Sir Gaerfyrddin nifer o fathau gwahanol o ffrwydron, powdr tanio ac arfau cemegol ar ei fferm yn Nhrimsaran pan aeth yr heddlu ar gyrch yno ar 11 Mehefin 2019.

Dywedodd yr erlyniad yn achos Russell Stephen Wadge, 58 oed, fod ganddo ddiddordeb yng nghyfnod "Natsïaeth yr Almaen, goruchafiaeth wyn a chasineb ac ofn Tommy Robinson".

Byddai'r stoc sylweddol o gemegau oedd ar ei eiddo, "wedi eu rhoi at ei gilydd yn gallu lladd neu anafu".

Clywodd Llys y Goron Casnewydd ddydd Mercher fod Mr Wadge wedi "cyfaddef yn falch" ei fod wedi cynhyrchu hydrogen cyanid, sef "un o'r gwenwynau sydd yn gweithio gyflymaf" ac yn wenwyn ar restr y confensiwn o arfau cemegol.

Wrth agor achos yr erlyniad yn ei erbyn, dywedodd Tom Little QC wrth y rheithgor fod "angen ystyried y 'Gair B' - nid Boris ond Brexit".

"Roedd rhai yn teimlo rhwystredigaeth gyda'r oedi yn y broses Brexit oedd yn chwilio am drafferth, ond heb y gallu i gael gafael ar yr ystod yma o gemegau."

Dywedodd fod hydrogen cyanid wedi ei ddarganfod yn y rhewgell, ac roedd gwydryn peint gyda label yn rhybuddio fod gwenwyn ynddo wedi ei ddarganfod rhwng bwyd a diod yn yr oergell.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Casnewydd

Clywodd y rheithgor fod archwiliadau Mr Wadge o wahanol destunau ar y we yn dangos fod ganddo ddiddordeb yn yr ymosodiad terfysgol gan ddyn oedd yn credu mewn goruchafiaeth wyn yn Seland Newydd yn 2019.

Pan gafodd ei holi gan yr heddlu, dywedodd Mr Wadge nad oedd yn credu mewn unrhyw fath o eithafiaeth a bod ganddo "ddiddordeb byw" mewn cemeg.

Ond dywedodd Mr Little: "Nid yw hwn yn achos am ddiddordeb naïf mewn cemeg - rydym yn dweud ei fod yn llawer mwy."

Cafwyd hyd i lyfrau oedd yn esbonio sut i wneud ffrwydron plastig, tri chynhwysydd o bowdr tanio a chynhwysion ar gyfer paratoi "ffrwydryn peryglus iawn" o'r enw TATP (triaceton triperocsid), fel yr un gafodd ei ddefnyddio yn ymosodiad Arena Manceinion.

Hefyd fe gafwyd hyd i focsys llawn grenadau, ffrwydron i'w gosod ar y ddaear a darluniau o arf gan y KGB ar gyfer defnyddio hydrogen cyanid, ac roedd Mr Wadge wedi ymchwilio i sut i greu gwrth-ddos meddai Mr Little.

Dywedodd yr erlyniad fod y diffinydd wedi dweud wrth yr heddlu "os yw'n amheus neu'n wenwyn rwy'n ei garu", ai fod yn chwilio am wybodaeth gudd "er mwyn y buzz neu'r cyffro".

Mae Mr Wadge wedi cyfaddef pum cyhuddiad o fod a chemegau gwenwynig anghyfreithlon yn ei feddiant heb drwydded.

Ond mae'n gwadu 28 cyhuddiad yn ymwneud â dyfeisiau ffrwydrol ac arfau cemegol.

Mae'r achos yn parhau.