Cyfnod clo'n gymhelliant i fenywod ddechrau busnes

  • Cyhoeddwyd
Mirain GlynFfynhonnell y llun, Prydferth-flwch
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Mirain Glyn yn defnyddio elw ei chwmni newydd i'w helpu gyda'i chwrs meistr yn y brifysgol

Mae mwy o fenywod yng Nghymru wedi bod yn edrych i ddechrau eu busnesau eu hunain yn ystod y mis ar ôl i'r cyfyngiadau coronafeirws gael eu lleddfu.

Dywedodd Business in Focus, sy'n darparu sawl gwasanaeth cymorth busnes yng Nghymru, fod y pandemig wedi arwain at bobl yn ail-feddwl eu ffyrdd o fyw, ac eisiau gwell cydbwysedd mewn bywyd.

Dywedodd y sefydliad fod cyfran uwch o fenywod â diddordeb mewn cyngor cychwynnol ym mis Awst - "cynnydd enfawr" o'i gymharu â'r adeg hon y llynedd.

Nawr mae galwadau am roi mwy o gymorth i fenywod eraill.

'Byth yn cael y cyfle eto'

Dywedodd Mirain Glyn o Ysbyty Ifan, Sir Conwy, ei bod wedi cael ei hysbrydoli i ddechrau ei busnes 'Prydferth-flwch' ddeufis yn ôl, ar ôl i'w gwaith rhan amser fel ffotograffydd grebachu wrth i briodasau gael eu canslo.

"O'dd o ar fy meddwl ers tipyn, ac yn ystod y lockdown o'n i'n meddwl os na wna i o rŵan fyddai fyth yn cael y cyfle yma eto," meddai'r fyfyrwraig 25 oed.

Ffynhonnell y llun, Pryferth-flwch/Facebook

Ers dechrau'r busnes, sy'n creu pecynnau o nwyddau Cymreig ar gyfer gwahanol achlysuron, mae hi wedi gweld y busnes yn mynd o nerth i nerth.

"Mae 'di bod yn hollol wych, ac mae o bellach yn swydd llawn amser i mi. O'n i'm yn disgwyl cael cymaint o ddiddordeb, ond dwi newydd gwblhau bocs rhif 200.

"O'n i just yn teimlo now or never. Ti methu difaru wedyn, ac mae 'di cadw fi'n brysur hefyd yn ystod y cyfnod yma."

Gadawodd Melaina Barry, 30 o Gasnewydd, ei swydd fel rheolwr bwyty cyn y pandemig coronafeirws, ac roedd yn poeni sut y byddai'n rheoli gofalu am ei mab chwe mis oed, Hadley, a gweithio shifftiau 12 awr.

"Rwy'n gwybod pa mor llafurus y gallai fod. A bod yn rheolwr mae'n rhaid i chi gwmpasu'r shifftiau hynny os oes salwch, mae'n rhaid i chi fod yno trwy'r amser."

Ffynhonnell y llun, Melaina Barry
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Melaina Barry yn poeni ynglŷn â gweithio eto mewn bwyty, a'r oriau a fyddai hynny'n ei olygu

Mae hi bellach wedi dechrau cwmni dillad babanod, gan ddweud ei bod nawr yn "gallu gwneud yr hyn dwi eisiau, pan dwi eisiau".

Defnyddiodd Ms Barry ei chynilion pensiwn i sefydlu ei busnes, a dywedodd y bydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddi gyda'i hamser.

Galw am gydraddoldeb

Mae ffigyrau o wasanaeth cymorth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn dangos bod 47% o'r entrepreneuriaid yr oedd wedi'u cefnogi i gychwyn busnes yn fenywod rhwng Ebrill ac Awst eleni.

Yn ôl Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru "mae llawer o fenywod wedi cael eu gwthio i'r dibyn gan y pandemig Covid-19", gyda rhai yn canfod bod eu hincwm a'u gofal plant yn lleihau, ac yn ei chael yn amhosibl mynd i'r gwaith wrth ymgymryd â chynyddu gofal yn y cartref.

Dywedodd cyfarwyddwr y rhwydwaith, Catherine Fookes: "Mae'r menywod hynny sydd ag adnoddau wedi gallu cychwyn y syniad busnes maen nhw wedi bod yn meddwl amdano erioed ac mae rhai ohonyn nhw yn medi'r buddion.

"Ond beth am y menywod hynny nad oes ganddyn nhw'r adnoddau i gychwyn eu busnes eu hunain?"

Mae'r grŵp ymgyrchu wedi dweud bod yn rhaid i ofal plant fod ar waith fel y gall menywod ddychwelyd i'r gwaith neu fod yn rhaid cael ffyrdd arloesol o gefnogi menywod trwy fenthyciadau, mentora neu hyfforddiant.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru iddi gyhoeddi 'Fframwaith ar gyfer Cefnogi Menywod Menter yng Nghymru a Chanllaw Arfer Da' y llynedd, i lywio sut mae gweinidogion a'r gymuned fusnes yn gweithio i gynyddu ac annog menywod sy'n mentro yng Nghymru.

Mewn ymateb, crëwyd Cynllun Gweithredu Busnes Cymru, a oedd yn cynnwys argymhellion fel darparu mwy o gymorth busnes sy'n canolbwyntio ar gefnogi merched a sicrhau gwell opsiynau cyllid.