'Angen buddsoddi i fenywod gyflawni eu potensial'
- Cyhoeddwyd
Mae elusen gydraddoldeb rhyw flaenllaw wedi dweud wrth BBC Cymru fod angen buddsoddi mewn gofal plant a gofal cymdeithasol er mwyn galluogi menywod "i gyflawni eu potensial economaidd".
Dywedodd Cerys Furlong, prif weithredwr elusen Chwarae Teg ein bod fel cymdeithas "yn gwerthfawrogi swyddi a wneir gan ddynion yn fwy na menywod".
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd menywod a grwpiau eraill sydd wedi eu heffeithio fwy gan coronafeirws yn "ganolbwynt" yr adferiad economaidd.
Dywed Ms Furlong wrth raglen Politics Wales: "Mae'n rhaid i ni feddwl am adferiad mwy gwyrdd a mwy cynaliadwy ac un sy'n fwy cyfartal a mwy cytbwys.
"Felly bydd hynny'n golygu penderfyniadau anodd ynghylch pa fathau o ddiwydiannau y gall Llywodraeth Cymru eu cefnogi gydag adnoddau cyfyngedig.
"Wrth wraidd hynny mae'n rhaid i ni werthfawrogi gofal, a gofal di-dâl yn arbennig.
"Rydym wedi gweld yn gwbl glir bod gwaith menywod yn gwbl hanfodol, nid yn unig i'r economi ond i'n hiechyd a'n lles."
Gwaith a gofal
Mae Marged Davies yn berchen ar salon harddwch Sukar yng Nghaerfyrddin ac mae hi'n fam i Gruff, sy'n dair oed.
Dywed ei bod wedi bod gweld y cyfnod clo yn anodd, wrth iddi orfod gofalu am ei mab a phoeni am arian.
Gan ei bod hi ddim ond wedi prynu'r salon chwe mis yn ôl, doedd hi ddim yn gymwys am help i'r hunangyflogedig, felly mae hi wedi bod yn byw ar ei chynilion, ac mae'r rheiny bron â dod i ben.
"Ar adegau mae wedi bod yn anodd iawn," meddai. "Rwy'n ceisio rhoi profiad cadarnhaol i Gruff gartref ond rydw i hefyd yn poeni am ddyfodol y salon.
"Does gen i ddim unrhyw incwm ac mae gen i bum merch yn gweithio i mi ar ffyrlo. Dydw i ddim yn gwybod am ba hyd y bydd hyn yn mynd ymlaen.
"Rydw i wedi bod yn byw oddi ar fy nghynilion am bedwar mis ac mae hynny bron â dod i ben.
"Ry'n ni'n dibynnu ar neiniau a theidiau, a heb iddynt fy nghefnogi ar gyfer gofal plant, fyddwn i ddim yn gallu dychwelyd i'r gwaith o gwbl."
Effaith ar fenywod
Mae astudiaethau gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol yn dangos bod menywod, fel Marged, ymhlith y rhai sy'n cael eu taro waethaf gan y pandemig - yn ariannol ac o ran llwyth gwaith cynyddol gartref.
Mae coronafeirws wedi gwaethygu'r anghydraddoldebau presennol yn ôl Rachel Cable, Cyfarwyddwr Oxfam Cymru.
"Yr hyn yr ydym wedi'i weld yn ystod y pandemig hwn yw bod menywod yn gwneud cyfran fwy o ofal di-dâl trwy ofalu am berthnasau neu edrych ar ôl y plant ac wrth gwrs menywod yw mwyafrif helaeth y bobl sy'n gweithio yn y GIG ac yn y sector gofal cymdeithasol," meddai.
"Ac er ein bod ni wedi bod yn sefyll ar garreg ein drws ar ddydd Iau yn clapio, y gwir amdani yw nad yw'r gofalwyr hynny yn cael eu gwerthfawrogi ar y lefel y dylen nhw fod."
'Adeiladu, Adeiladu, Adeiladu'
Cyhoeddodd Boris Johnson ddiwedd mis Mehefin y byddai ei lywodraeth yn "Adeiladu, Adeiladu, Adeiladu" ei ffordd i adferiad economaidd.
Dywed Ms Furlong ei bod yn credu fod hyn yn ymateb "macho" sy'n gorsymleiddio'r broblem.
"Roeddwn i'n meddwl ei fod yn ymateb mor macho i'r argyfwng presennol," meddai.
"Felly beth mae hynny'n ei olygu - mae'n golygu swyddi adeiladu, mae'n golygu peirianneg a'r holl bethau hynny sydd eu hangen arnom, wrth gwrs, ond mae angen seilwaith cymdeithasol arnom hefyd.
"Mae angen buddsoddiad arnom mewn gwasanaethau cyhoeddus, mae angen gofal cymdeithasol da iawn arnom, mae hynny yn hanfodol bwysig.
"Mae angen gofal plant arnom i ganiatáu i fenywod ddychwelyd i'r gwaith. Felly roeddwn yn meddwl ei bod yn neges mor or-syml ond mae'n ddadl llawer mwy cymhleth nag 'Adeiladu, Adeiladu, Adeiladu'."
Melin drafod
Ond nid dim ond gwella cymdeithas y byddai buddsoddi mewn gofal, meddai rhai.
Yn ôl melin drafod cydraddoldeb rhywiol, y Women's Budget Group, pe byddem yn buddsoddi mewn gofal yn hytrach nag adeiladu, byddem yn creu 2.7 gwaith yn fwy o swyddi - 6.3 gwaith yn fwy i fenywod a 10% yn fwy i ddynion.
Mae'r adroddiad yn dadlau bod buddsoddi mewn gofal yn gwneud synnwyr, nid yn unig am ei fod yn cynhyrchu cyflogaeth ond hefyd oherwydd ei fod yn helpu i greu poblogaeth iachach, wedi'i haddysgu'n well ac yn fwy cynhyrchiol.
Dywed un o awduron yr adroddiad, yr Athro Susan Himmelweit, economegydd yn y Brifysgol Agored, mai un o effeithiau buddsoddi mewn gofal fyddai "gwella'r cydbwysedd rhwng y rhywiau mewn cyflogaeth, oherwydd bydd mwy o'r swyddi'n mynd i fenywod".
"Ond oherwydd y byddwch chi'n cynhyrchu cymaint mwy o swyddi yn gyffredinol, byddech chi hefyd yn cynhyrchu mwy o swyddi i ddynion," meddai.
Ymateb y llywodraeth
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ailadeiladu Cymru yn dilyn coronafeirws yn cynrychioli'r her fwyaf rydyn ni wedi'i hwynebu. Nid yw'n ddigon meddwl o ran adferiad.
"Rhaid inni feddwl o ran normal newydd, fel y gallwn adeiladu'n ôl yn well i sicrhau bod ein dyfodol yn decach, yn fwy cynhwysol ac yn fwy cynaliadwy na'n gorffennol.
"Rydym yn gwybod bod y pandemig coronafirws wedi cael effaith anghymesur o negyddol ar rai cymunedau, gan gynnwys menywod, a bydd ein hymdrechion yn rhoi eu diddordebau yn ganolbwynt, wrth i ni geisio sicrhau bod pobl Cymru, yn enwedig y rhai mewn grwpiau yr effeithir arnynt, yn gallu cynyddu eu potensial economaidd i'r eithaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2020