Cynefinoedd morol yn 'hanfodol' i leihau allyriadau

  • Cyhoeddwyd
saltmarsh 2

Ry'n ni'n clywed yn aml am blannu coed er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd ond mae cynyddu potensial moroedd Cymru i amsugno carbon deuocsid hefyd yn hanfodol, yn ôl astudiaeth newydd.

Mae'n dangos bod morfeydd heli arfordirol a chaeau morwellt ymhlith y cynefinoedd pwysicaf ar gyfer amsugno'r allyriadau sy'n cynhesu'r blaned.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) - a gomisiynodd yr ymchwil - ei fod yn gweithio gydag eraill i reoli ac adfer y safleoedd hyn.

Ond mae un elusen môr wedi dadlau bod y canfyddiadau'n profi'r angen i wneud llawer mwy.

Fe amcangyfrifodd yr ymchwilwyr fod amgylchedd morol Cymru'n amsugno cymaint o garbon deuocsid bob blwyddyn ag sy'n cael ei bwmpio allan dros yr un cyfnod gan 64,800 o geir neu 115,600 o hediadau o Gaerdydd i'r Ynysoedd Dedwydd ac yn ôl.

Mae 'na dros 3m hectar o "gynefin carbon glas", sy'n gallu storio o leiaf 113m tunnell o garbon - sy'n cyfateb i werth 10 mlynedd o allyriadau Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Rhian Jardine - Pennaeth Gwasanaethau Morol Cyfoeth Naturiol Cymru

Dywedodd Rhian Jardine, Pennaeth Gwasanaethau Morol Cyfoeth Naturiol Cymru, eu bod yn "ganlyniadau cyffrous iawn".

"Fe wnaethon ni gomisiynu'r astudiaeth fel ein bod ni'n medru deall yn well beth oedd rôl ein hamgylchedd morol o ran dal a storio carbon a sicrhau nad yw'n cael ei anwybyddu o ran ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd.

"Mae gennym ni ystod eang iawn o ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n sicrhau eu bod yn cael eu rheoli'n effeithiol fel bod y potensial sydd gan y cynefinoedd hyn ar gyfer storio carbon yn cael ei gyrraedd."

O'r cynefinoedd a astudiwyd ganddyn nhw, morfeydd heli - gwlypdiroedd arfordirol sy'n cael eu llifogi a'u draenio'n gyson gan y llanw - oedd fwyaf effeithiol o ran storio carbon.

Maen nhw'n gartref i amrywiaeth o blanhigion sy'n cipio CO2 o'r aer a'r dŵr cyn ei gloi yn y gwaddod islaw drwy eu gwreiddiau.

Maen nhw i'w canfod ar hyd arfordir Cymru ac fe'u hystyriwyd unwaith yn dir gwastraff i'w adennill ar gyfer diwydiant neu ffermio. Bellach maen nhw wedi'u diogelu i raddau helaeth fel rhan o ardaloedd cadwraeth arbennig.

Gallai eu hadfer neu eu hehangu gynyddu faint o garbon sy'n cael ei storio, meddai'r ymchwilwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Lily Pauls - Uwch Gynghorydd Morol Cyfoeth Naturiol Cymru

Dywedodd Lily Pauls, Uwch Gynghorydd Morol Cyfoeth Naturiol Cymru fod safleoedd fel morfeydd heli Gogledd Gŵyr y mae hi'n helpu i'w rheoli yn gynefinoedd hanfodol i fywyd gwyllt yn ogystal.

"Mae gennym dros 20 rhywogaeth o blanhigion morfa heli y gallwch ddod o hyd iddynt yma ac mae bywyd pryfed cysylltiedig hefyd.

"Mae'r lle yma hefyd yn gweithredu fel meithrinfa ar gyfer pysgod ifanc ac o ran adar, mae gennym ni bibydd y mawn, pibydd yr aber, hwyaid yr eithin, pioden y môr a llawer mwy yn nythu a bwydo ar y morfa heli."

Mae storfeydd carbon eraill yn cynnwys organebau byw fel morwellt a chregyn anifeiliaid morol.

Mae 'na brosiect ar waith ar hyn o bryd i blannu caeau morwellt newydd oddi ar arfordir Sir Benfro - dan arweiniad Prifysgol Abertawe, elusen WWF a Sky Ocean Rescue.

Dywedodd Dr Cai Ladd, arbenigwr yn y maes ym Mhrifysgol Glasgow, fod astudiaeth CNC yn bwysig oherwydd "mae'n cydnabod y gwaith rydym ni yn y gymuned academaidd wedi'i wneud dros y blynyddoedd i dynnu sylw at allu ecosystemau arfordirol i ddal a storio carbon o'r atmosffer i'r ddaear".

"Mae'r prosesau'n rhai diddorol iawn ac yn unigryw i'r arfordir," meddai. "Mae gwaddodion yn cronni dros amser felly be gewch chi yn y pen draw ydy storfeydd dwfn iawn sy'n llawn carbon."

Ond yn ôl Gill Bell, Pennaeth Cadwraeth Cymru yng Nghymdeithas Cadwraeth y Môr fod "llawer mwy i'w wneud" o ran gwarchod ac adfer cynefinoedd o'r math.

"Mae angen i ni fuddsoddi mewn carbon glas - ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ei sylw ar ynni adnewyddadwy morol a physgodfeydd. Ond yr hyn y mae angen i ni fod yn ei wneud yw adfer ac atgyweirio'r holl gynefinoedd hynny sy'n gallu storio carbon am gyfnod hir o forfeydd heli i wely'r môr ei hun."

"Er enghraifft, rydym yn caniatáu llongau sy'n treillio neu lusgo gwely'r môr mewn sawl ardal a phob tro y byddwn yn gwneud hynny ry'n ni'n tarfu ar yr holl garbon hwnnw sy'n cael ei storio."

"Felly mae angen i ni wneud mwy i amddiffyn ein holl gynefinoedd morol ar y glannau ac allan yn y môr i'w galluogi i'n helpu ni gyda chynhesu byd-eang."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gennym ystod eang o safleoedd morol wedi'u gwarchod yng Nghymru sy'n parhau i gynnig lloches i nifer o gynefinoedd a rhywogaethau, gan gynnwys y rhai sy'n chwarae rhan mewn amsugno carbon.

"Rydym wedi ymrwymo i adfer a gwella ein hecosystemau morol, ac mae'r dystiolaeth sy'n datblygu - fel hwn gan CNC - yn mynd i chwarae rôl hanfodol yn y gwaith yma."