'Dim syndod petai Merthyr Tudful dan glo wythnos nesaf'
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dweud na fyddai'n syndod ganddo petai Merthyr Tudful dan glo unwaith yn rhagor wythnos nesaf.
Yn ôl Dr Kelechi Nnoaham, cyfarwyddwyr iechyd cyhoeddus y bwrdd, mae achosion coronafeirws ar gynnydd yno, yn ogystal ag ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd Dr Nnoaham ar Radio Wales ddydd Gwener: "Petawn ni dan glo ym Merthyr wythnos nesaf, fyddwn ni ddim yn synnu - rwy'n bendant yn gobeithio y gallen ni osgoi hynny."
Ychwanegodd: "Yn fy marn i, mae cynnydd llawer cyflymach wedi bod ym Mhen-y-bont er bod niferoedd yn gymharol isel mewn mannau.
"Ond os edrychwch chi ar y cynnydd o wythnos i wythnos ym Mhen-y-bont a chymharu hwnnw â Merthyr fyddwn i yn bendant yn dod â Phen-y-bont i'r darlun o ran angen deall mwy ynghylch beth sy'n mynd ymlaen."
Mae rheolau llym eisoes mewn grym yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf.
Daeth y rheolau newydd i rym yn Rhondda Cynon Taf nos Iau, gan gyfyngu ar hawliau pobl i deithio i mewn ac allan o'r sir, ac i gyfarfod ag eraill.
Dywedodd Beth Winter, AS Llafur Cwm Cynon, wrth Post Cyntaf bod y "cynnydd cyflym sydd wedi digwydd mewn achosion yn golygu fod rhaid cymryd camau... ac os bydd rhaid i ni gyflwyno cyfyngiadau lleol mwy llym, dyna fydd yn digwydd".
Pwysleisiodd yr angen i bawb ddilyn y cyfyngiadau ond mynegodd bryder ynghylch eu heffaith ar deuluoedd difreintiedig.
"Ni 'di cael llawer o bobl yn cysylltu yn bryderus iawn am bob math o broblemau maen nhw'n disgwyl o ran y cyfyngiadau yma," meddai.
"Rydyn ni'n gweiddi'n uchel lan yn San Steffan i neud yn siŵr ein bod ni'n cael yr arian ni angen, a hefyd y math o gyfleusterau fy' ni angen i ddelio â hyn."
Coronafeirws sydd yn 19eg safle tabl yr achosion marwolaeth mwyaf cyffredin yng Nghymru, yn ôl data marwolaeth misol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
O'r 2,379 marwolaeth yng Nghymru ym mis Awst, roedd 52 - 2.2% - â chysylltiad gyda'r feirws, ond mae cyfradd y marwolaethau Covid-19 wedi gostwng am y pedwerydd mis yn olynol.
Roedd yna 11 o farwolaethau Covid-19 i bob 100,000 o boblogaeth yng Nghymru ym mis Awst, o'i gymharu â 495.1 i bob 100,000 yn anterth y pandemig ym mis Ebrill.
Yn unol â'r cyfartaledd arferol, marwolaethau yn sgil clefyd y galon a dementia oedd ar frig y tabl ym mis Awst.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2020
- Cyhoeddwyd10 Medi 2020
- Cyhoeddwyd7 Medi 2020