Coronafeirws: Dim cyfyngiadau pellach am y tro

  • Cyhoeddwyd
Menyw'n siopa ym MerthyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd peth dyfalu y byddai cyfyngiadau'n cael eu cyflwyno ym Merthyr Tudful

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddan nhw'n cyhoeddi cyfyngiadau pellach oherwydd coronafeirws am y tro.

Roedd yna sibrydion y gallai cyfyngiadau gael eu cyflwyno yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful yn dilyn y rhai gafodd eu cyflwyno yng Nghaerffili yn gynharach yn yr wythnos.

Mae arweinwyr cynghorau'r ardal wedi annog pobl Rhondda Cynon Taf a Merthyr i ddilyn canllawiau coronafeirws er mwyn osgoi cael cyfyngiadau.

Mewn datganiad ar y cyd fe ddywedon nhw: "Oherwydd cynnydd yn y nifer sy'n profi'n bositif am Covid-19, ac i osgoi cyfnod clo arall yn y dyfodol, mae arweinwyr cyngor Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf yn gofyn i'r holl drigolion weithredu nawr er mwyn osgoi'r angen am gyfnod clo arall yn y dyfodol agos.

"Rydym yn gofyn am weithredoedd gwirfoddol gan drigolion, a hynny ar unwaith.

"Mae'r gweithredoedd hynny'n cynnwys:

  • Dim ond defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus at bwrpas hanfodol, sy'n cynnwys teithio ar gyfer addysg, gwaith, apwyntiadau meddygol hanfodol, a siopa;

  • Gweithiwch o adre am yr wythnosau nesaf os fedrwch chi. Gofynnwch am gymorth eich cyflogwyr er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n medru gweithio o adre yn gallu gwneud hynny;

  • Gwisgwch orchudd wyneb tair haen, lle mae'n ddiogel i wneud hynny, pan yn gweithio, mewn archfarchnadoedd neu fannau eraill dan do neu fannau awyr agored sydd yn llawn pobl (argymhellwn hyn i bawb sy'n 12 oed neu'n hŷn);

  • Peidiwch ymweld â chartrefi gofal, oni bai fod hynny'n ymweliad diwedd oes pan fydd angen offer diogelwch personol (PPE) llawn arnoch chi."

Mae'r ddau gyngor wedi pwysleisio y bydd ysgolion yn aros ar agor ac y bydd cludiant i ddisgyblion ysgol yn parhau yn unol â chanllaw diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.