Gareth Bale yn arwyddo i Tottenham Hotspur ar fenthyg
- Cyhoeddwyd

Mae Gareth Bale wedi ailymuno gyda Tottenham Hotspur ar fenthyg o Real Madrid.
Fe adawodd yr ymosodwr Spurs am Sbaen yn 2013 am £85m - record byd am drosglwyddiad ar y pryd.
Ers hynny mae Bale, 31, wedi sgorio dros 100 o goliau ac ennill Cynghrair y Pencampwyr bedair gwaith ym Madrid.
Bydd capten Cymru yn dychwelyd i Lundain am flwyddyn ar fenthyg.
"Mae'n braf bod yn ôl," meddai mewn datganiad.
"Mae'n glwb mor arbennig i mi. Dyma lle gwnes i fy enw.
"Gobeithio, nawr y gallaf gychwyn arni a helpu'r tîm yn fawr a, gobeithio, ennill tlysau."
Ychwanegodd: "Roeddwn bob amser yn meddwl pan adawais y byddwn wrth fy modd yn dod yn ôl."

Fe gadarnhaodd Gareth Bale ei fod wedi ail-ymuno â Spurs ar ei gyfrifon ar wefannau cymdeithasol
Roedd gan Bale ddwy flynedd yn weddill ar ei gytundeb ym Madrid.
Roedd Bale yn agos iawn at adael Madrid am China yn 2019, gyda rhai yn awgrymu y byddai wedi ennill cyflog o dros £1m yr wythnos.
Ond fe newidiodd Real Madrid eu meddyliau, er iddo ymddangos mewn 16 gêm gynghrair yn unig y tymor diwethaf.
Manylion y cytundeb
Yn ôl adroddiadau bydd Tottenham yn talu 40% o gyflog Bale, sy'n fwy na £600,000 yr wythnos gyda Real Madrid.
Gallai'r ffigwr hwnnw gynnwys taliadau bonws, felly mae'n bosib byd y taliad gwirioneddol fod yn llai na £260,000 yr wythnos.
Byddai hynny'n gosod cyflog Bale uwchlaw Harry Kane, capten Lloegr, a lofnododd gytundeb gwerth £200,000 yr wythnos yn 2018.

Fe sgoriodd Bale 26 gôl i Spurs yn ei dymor olaf gyda'r clwb yn 2012-13
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2019