Real Madrid yn canslo trosglwyddiad Gareth Bale i China
- Cyhoeddwyd

Roedd rheolwr Real Madrid, Zinedine Zidane, wedi dweud y byddai ymadawiad Bale â'r clwb y peth 'gorau i bawb'
Mae'n ymddangos na fydd ymosodwr Cymru, Gareth Bale, yn cael ei drosglwyddo i glwb yn China.
Yn ôl adroddiadau mae Real Madrid wedi canslo'r trosglwyddiad a bellach mae disgwyl i Bale aros ym mhrifddinas Sbaen.
Roedd Bale wedi cael ei gysylltu gyda throsglwyddiad i glwb Jiangsu Suning ar gytundeb tair blynedd, gyda rhai yn awgrymu y byddai'n ennill cyflog o dros £1m yr wythnos.
Yr wythnos ddiwethaf dywedodd rheolwr Real Madrid, Zinedine Zidane fod Bale yn "agos iawn at adael" y clwb ac y byddai ei ymadawiad y "peth gorau i bawb."
Ond mae'n ymddangos fod Real Madrid bellach wedi newid eu meddyliau gyda rhai yn adrodd eu bod yn awyddus i dderbyn ffi amdano.
Mae gan Bale dair blynedd ar ôl ar ei gytundeb ym Madrid.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2019