Oriel: Neuadd Pantycelyn dros y blynyddoedd
- Cyhoeddwyd
![Neuadd Pantycelyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/12A32/production/_114483367_0265166e-601d-438b-b3c8-95422ecf4a57.jpg)
Agorodd Neuadd Pantycelyn yn 1951 fel neuadd breswyl i fyfyrwyr gwrywaidd yn unig.
Ar Fedi 18 agorwyd drysau Neuadd Pantycelyn i fyfyrwyr Cymraeg Aberystwyth unwaith eto, ar ôl bod ar gau am bum mlynedd.
Wrth i'r Brifysgol groesawu myfyrwyr yn ôl i'r adeilad eiconig wedi gwaith adnewyddu, dyma olwg ar sut mae'r neuadd wedi newid dros y blynyddoedd, o'r dyddiau cynnar pan mai bechgyn yn unig oedd yn byw yno, hyd heddiw gyda cheginau modern ac ystafelloedd gwely mwy moethus.
![Neuadd Pantycelyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17852/production/_114483369_d91ed0f5-b7cd-4060-a7b9-2fdbbf43aed8.jpg)
Yr adeg yna roedd llyfrgell ar gyfer y myfyrwyr yn yr adeilad.
![Neuadd Pantycelyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1CAA/production/_114483370_4be3f10b-4a01-4201-92af-b605d56aab1b.jpg)
Mae cyfleusterau cymunedol y neuadd, fel y ffreutur, yn cael eu hystyried yn fannau pwysig i fyfyrwyr gymdeithasu.
![Neuadd Pantycelyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/10322/production/_114483366_96b3000a-df6b-4931-a1d5-0120d3d09c70.jpg)
Daeth Pantycelyn yn neuadd breswyl cyfrwng Cymraeg yn 1974.
![Neuadd Pantycelyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/4CA6/production/_114422691_1407aef4-081d-4e85-9d3a-06375d7d6efb.jpg)
Bu Dr John Davies, hanesydd ac awdur y gyfrol Hanes Cymru, yn warden y neuadd am 18 mlynedd.
![Neuadd Pantycelyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/2596/production/_114422690_2a1563a4-400e-49e7-b99a-c7aa794a8895.jpg)
Ers ei sefydlu, bu Pantycelyn yn gartref i dros 3,500 o fyfyrwyr.
![Neuadd Pantycelyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/15142/production/_114483368_fcf54b7d-9d38-4bdb-91b9-8b6d60dbc81e.jpg)
Yn Hydref 2013 bu protestiadau am gynlluniau Prifysgol Aberystwyth i gau Neuadd Pantycelyn a symud y myfyrwyr i fflatiau newydd.
![Mynedfa newydd Neuadd Pantycelyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1485D/production/_114416048_pantycelyn-002.jpg)
Mae gan Neuadd Pantycelyn fynedfa newydd ar ochr ddwyreiniol yr adeilad, wrth i'r adeilad groesawu myfyrwyr unwaith eto ym Medi 2020
Mi fydd rhaglen am Neuadd Pantycelyn yn olrhain hanes, llwyddiannau a misdimanyrs yr adeilad eiconig ar BBC Radio Cymru, ddydd Sul Medi 20 am 14:00
![Pantycelyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/122F1/production/_114418447_6ead715c-1014-4e9d-a66b-d634c071246b.jpg)
Mae'r Lolfa Fawr wedi bod yn fan i'r myfyrwyr gymdeithasu dros y blynyddoedd
![Ystafell yn Neuadd Pantycelyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/13FF4/production/_114480918_img_6396.jpg)
Golwg ar un o'r ystafelloedd gwely moethus. Bellach mae ystafell ymolchi integredig yno hefyd
![Pantycelyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5A8D/production/_114418132_51754058-d418-4f9d-8909-790391c577bf.jpg)
Mae ceginau newydd modern wedi eu gosod yn y neuadd
Hefyd o ddiddordeb: