Ralïo: Elfyn Evans yn ennill Rali Twrci
- Cyhoeddwyd
Mae Elfyn Evans yn ôl ar frig Pencampwriaeth Rali'r Byd yn dilyn buddugoliaeth yn Rali Twrci.
Gorffennodd y Cymro 36 eiliad ar y blaen i Thierry Neuville, a oedd yn yr Hyundai, i hawlio ei ail fuddugoliaeth o'r tymor.
Dechreuodd Evans, 31, y diwrnod olaf yn bedwerydd ond ar ôl i Neuville, Sebastien Loeb a Sebastien Ogier gael tyllau yn eu holwynion ar gymal rhif naw fe roddodd hynny fantais i Elfyn Evans o 47 eiliad.
Enillodd Neuville y tri chymal olaf ond fe sicrhaodd Evans ei fod yn gwneud digon i hawlio'r fuddugoliaeth.
"Mae wedi bod yn benwythnos anodd," meddai Evans, a enillodd Rali Sweden ym mis Chwefror hefyd.
"Roedden ni'n agos iawn ati y rhan fwyaf o'r penwythnos, ac roedden ni'n meddwl prynhawn ddoe bod ein gobeithio o ennill ar ben. Fe wnaethon ni geisio gyrru'n dda ac aros yng nghanol y ffordd drwy'r cyfan oll.
"Rwy'n ymwybodol iawn ein bod ni wedi cael ychydig bach o lwc, a dydw i byth yn hoffi manteisio ar eraill yn y modd yna. Ond dyna ydy natur Rali Twrci, yn arbennig, ac roeddem yn gwybod bod hyn ar gychwyn y penwythnos.
"Er hynny, rydyn ni'n hapus iawn - nid dyna'r fuddugoliaeth felysaf pan wyddoch eich bod chi efallai wedi bod ychydig yn fwy ceidwadol, ond dyna nod y gêm."
Dim ond dwy ras sydd ar ôl yn y bencampwriaeth sydd wedi cael ei byrhau oherwydd coronafeirws - cymal yr Eidal ym mis Hydref ac yna'r diweddglo ym mis Tachwedd yng Ngwlad Belg.
Cafodd cymal Rali GB Cymru ei chanslo oherwydd y pandemig.