Elfyn Evans: Rhaid rhoi iechyd pobl o flaen chwaraeon

  • Cyhoeddwyd
Elfyn Efans

Mae'r gyrrwr rali o Ddolgellau, Elfyn Evans yn gobeithio y bydd e'n ôl yn ei gar yn fuan ac yn cystadlu am deitl Rali GB Cymru unwaith eto fis Tachwedd.

Fe ddaeth y gŵr 31 oed i'r brig yn y rali 'nôl yn 2017 - y Cymro cyntaf erioed i wneud hynny.

Ond gyda Covid-19 wedi dod â Phencampwriaeth Ralïo'r Byd i ben am y tro, aros i glywed beth fydd tynged y tymor yn unig y gall Elfyn Evans ei wneud nawr, a hynny tra'n mwynhau ei filltir sgwâr.

"Dwi adre ar hyn o bryd yn ardal Dinas Mawddwy, Dolgellau - adre rhan fwya'r amser fel pawb arall," meddai.

"Dwi 'di colli 'chydig bach o trac o'r dyddiade! Fydden i rhwng dwy rali erbyn hyn fel arfer - rhwng Argentina a Phortiwgal. Mae fod yn adeg eitha' prysur o'r flwyddyn i ni ond yn amlwg mae'n wahanol 'leni."

Rhwystredig

Mae'r gohiriad yn rhwystredig a dweud y lleiaf i Elfyn. Ar ôl ennill rali heriol Sweden fis Chwefror, y dyn cyntaf o Brydain i wneud hynny, mae e'n ail yn y bencampwriaeth ar ôl tair rali.

Dyma'r dechrau gorau erioed i dymor iddo. Dim ond y pencampwr byd ar chwe achlysur, Sebastien Ogier - hefyd o dîm Toyota - sy' uwch nag e yn y tabl.

"Odd hi'n gychwyn positif gyda fi'n setlo mewn i dîm newydd," meddai.

"Mae bod yn y sefyllfa 'ma 'ŵan 'chydig bach yn rhwystredig ond ma' hi yr un peth i bawb ym myd busnes neu chwaraeon.

Elfyn EvansFfynhonnell y llun, Getty Images

"Ydy, ma' hi'n adeg od iawn ond mae'n rhoi 'chydig bach o amser i ni edrych 'nôl ar y tair rali 'yn ni wedi neud gan ddysgu gwersi cyn mynd 'nôl i'r car."

Mae Elfyn yn awyddus i fod yn ôl gyda'i dîm yn fuan, ond ar hyn o bryd dim ond aros am arweiniad gan y corff sy'n rheoli'r gamp y gall e wneud, a hynny tra'n ceisio cadw'n ffit yng ngogledd Cymru.

"Ma' nhw'n gweithio ar bethe wrth iddyn nhw ddatblygu ond ma' popeth up in the air ar y funud. Ma' nhw'n dweud fod rali Portiwgal wedi ei chanslo a ma' Sardinia wedi ei gohirio.

"Ma' nhw dal i weithio ar blania i fynd i Kenya i neud saffari ond falle bod hwnna yn edrych yn fwyfwy anodd. 'Yn ni'n disgwyl mwy o wybodaeth yn yr wythnose nesa' ynglŷn â hynny.

Mwy am coronafeirws
Mwy am coronafeirws

"Pwy a ŵyr sut allwn ni weld diwedd y tymor ond y'n ni yn gobeithio yn fawr y fedrwn ni fynd 'nôl i'r car cyn cynted â phosib, ond bydd yn rhaid rhoi iechyd pobl o flaen chwaraeon.

"Yn y cyfamser dwi'n meddwl bo' ni'n reit lwcus bo' ni'n byw lle ydan ni yn ardal Eryri. Alla'i fynd allan ar y beic, rhedeg - ma'r tywydd yn eitha braf ar y funud."

Croesi popeth

Uchafbwynt y calendr i Elfyn yw Rali GB Cymru sy'n cael ei chynnal yn yr Hydref.

Mae disgwyl i fanylion y ras gael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf - gyda'r Cymro yn croesi popeth y bydd modd cynnal y digwyddiad.

"Mae Rali Cymru yn un dwi'n edrych 'mlaen fwya' iddi yn ystod y tymor. Ers i fi ennill yn 2017 dwi ddim 'di cael y lwc gore.

"Gaethon ni drafferth gyda'r car yn 2018 a nes i gamgymeriad llynedd. Gobeithio yn fawr y gewn ni fod 'nôl tu ôl i'r olwyn i ennill hi 'leni."