'Cadw golwg ar niferoedd Covid mewn wyth sir arall'
- Cyhoeddwyd

Mae cyfyngiadau llymach yn dod i rym mewn pedair sir nos Fawrth, gan gynnwys Merthyr Tudful
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn "cadw golwg" ar niferoedd coronafeirws mewn wyth sir yng Nghymru, ar ben y rhai sydd eisoes yn destun camau ychwanegol i reoli'r haint.
Mae cyfyngiadau lleol eisoes mwn grym yn Rhondda Cynon Taf a Sir Caerffili, a bydd cyfyngiadau llymach yn dod i rym am 18:00 nos Fawrth yn achos trigolion Pen-y-Bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd.
Ond yn ôl Dr Giri Shankar, y cyfarwyddwr sy'n arwain ymateb ICC i'r pandemig, mae niferoedd achosion hefyd ar gynnydd o fewn ffiniau cynghorau sir Caerdydd, Bro Morgannwg, Caerfyrddin, Abertawe, Ynys Môn, Conwy, Dinbych a'r Fflint.
Rhybuddiodd bydd "rhaid ystyried cyfyngiadau lleol yn yr ardaloedd hefyd" os fydd y cynnydd presennol yn parhau.
Dywedodd wrth BBC Radio Wales: "Mae yna 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
"Ar hyn o bryd, mae chwech o'r 22 o gwmpas y trothwy o 50 [achos] i bob 100,000 [o boblogaeth] mewn saith diwrnod.
"Mae yna wyth awdurdod lleol arall tu hwnt i'r chwech yna yr ydym yn cadw golwg arnyn nhw... Parth Ambr o gyfradd o 25 [achos] i bob 100,000.
"Os fydd niferoedd achosion yn parhau i godi mewn patrymau tebyg i'r chwe awdurdod lleol [cyntaf i wynebu cyfyngiadau lleol] yna bydd rhaid ystyried cyfyngiadau lleol yn yr ardaloedd hynny yn ogystal."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2020
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020