Sut mae pobl yn teimlo am gyfnod clo lleol?
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfyngiadau lleol yn dod i rym yn mhedwar o siroedd y de-ddwyrain yn ddiweddarach ddydd Mawrth.
Am 18:00, bydd trigolion Pen-y-Bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Chasnewydd yn wynebu cyfyngiadau llymach.
Daw hyn yn sgil cynnydd yn achosion coronafeirws yn yr ardaloedd yma.
Fe fydd y cyfyngiadau lleol sydd mewn grym yn Sir Caerffili hefyd yn cael eu cryfhau i adlewyrchu'r cyfyngiadau sydd mewn grym yn barod yn ardal Rhondda Cynon Taf.
Daw wrth i Brif Swyddogion Meddygol y DU gyhoeddi eu bod yn codi lefel y rhybudd am coronafeirws yn y DU o lefel 3 i lefel 4.
Mae hynny'n gydnabyddiad swyddogol bod achosion yn cynyddu yn y pedair gwlad.
Dywedodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson nos Lun y byddai bwytai, tafarndai a bariau yn Lloegr yn gorfod cau am 22:00 o ddydd Iau ymlaen.
Ond sut mae rhai o drigolion de-ddwyrain Cymru yn teimlo am fynd yn ôl i gyfnod o gyfyngiadau llymach?
'Cyfnod heintus beth bynnag'
Mae Rhys Bebb yn byw yng Nghasnewydd ac roedd newydd ddechrau ei swydd newydd gyda Screen Alliance Wales ychydig cyn y cyfnod clo ym mis Mawrth.
"Dim ond unwaith rwy' wedi cyfarfod â fy rheolwr," meddai. "Mae rhywun yn gorfod derbyn cyfyngiadau pellach a dyw e ddim yn syndod i ddweud y gwir eu bod wedi'u cyflwyno yn yr hydref.
"Fel cyn-athro rwy'n gwybod bod hwn yn gyfnod heintus beth bynnag a nifer o'r plant yn dal rhywbeth wedi iddyn nhw ddychwelyd i'r ysgol. Gobeithio nawr y bydd pethau'n dod yn well wedi hyn."
Dywed Meryl Darkins, sy'n byw yn Nhredegar ym Mlaenau Gwent ei bod yn siomedig iawn ond ei bod yn deall y rhesymau.
"Mae'r achosion ym Mlaenau Gwent wedi codi a does dim dewis arall - mae'n rhaid i'r llywodraeth reoli'r sefyllfa," meddai.
"Mae'n nheulu i yn byw yng Nghaerffili a dydyn nhw ddim yn gallu gadael beth bynnag.
"Mae'r cyfyngiadau yn y ddwy sir yn golygu hefyd nad wyf i'n gallu mynd i'r capel yn Rhymni. Roeddwn i wedi dechrau cynnal gwasanaethau ym mis Awst. Ydw rwy'n siomedig ond yn deall pam, wrth gwrs."
Roeddwn i'n disgwyl hyn i ddigwydd," meddai Anne England sy'n byw yn Aberfan yn Sir Merthyr, "ond ddim yn disgwyl iddo ddigwydd mor gloi.
"Mae'r plant yn byw yn Rhondda Cynon Taf ac ers wythnos diwethaf 'dyw e ddim yn bosib eu gweld nhw.
"Wrth i Ferthyr wynebu cyfyngiadau mae'n siŵr y bydd hi'n gryn amser - ry'n ni bosib wythnos ar ôl Rhondda Cynon Taf ond rhaid gwneud ein gorau i atal yr haint rhag lledu ac osgoi marwolaethau.
"Dyna'r cyfan sy'n bwysig mewn gwirionedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020