'Cyfyngiadau Covid-19 mewn grym am chwe mis arall'
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Prydain Boris Johnson wedi cyhoeddi mesurau newydd ar gyfer ceisio atal lledaeniad y feirws yn Lloegr - tra'n dweud y bydd y "gwledydd datganoledig yn cymryd camau tebyg".
Bydd Prif Weinidog Cymru hefyd yn cyhoeddi mesurau pellach er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y feirws yng Nghymru yn ddiweddarach ddydd Mawrth.
Dywedodd Mr Johnson y byddai busnesau lletygarwch fel tafarndai a bwytai yn gorfod cau am 22:00 yn Lloegr, gyda mwy o faich ar fusnesau i sicrhau bod pobl yn dilyn y rheolau.
Ychwanegodd y byddai'r nifer sy'n cael mynychu priodasau yn Lloegr yn cael ei gyfyngu i 15, tra bod 30 dal yn cael mynychu angladdau yno.
Mae rhai o'r mesurau a gyhoeddwyd gan Mr Johnson - fel gofyn i bobl fynd yn ôl i weithio o adref lle bo hynny'n bosib a gwisgo mygydau mewn tacsis - eisoes yn weithredol yng Nghymru.
Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn bwriadu annog pobl i "ond wneud y siwrneau yna sydd wir yn angenrheidiol" pan fydd yn gwneud ei gyhoeddiad yn ddiweddarach.
"Dwi'n meddwl y dylen ni gyd fod yn gofyn i'n hunain - oes wir angen gwneud y siwrne yma?"
Cyhoeddiad i ddilyn yng Nghymru
Mewn datganiad yn dilyn cyfarfod COBRA rhwng Mr Johnson a phrif weinidogion y gwledydd datganoledig, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y cyfarfod wedi trafod "ystod o fesurau ar draws y DU mewn ymateb i'r cynnydd mewn lledaeniad Covid-19, mae rhai o'r rheiny, fel yr angen i bobl weithio o adre lle bod hynny'n bosib, eisoes yn weithredol yma yng Nghymru.
"Fe fydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyhoeddi mesurau pellach i gael eu cyflwyno yng Nghymru yn ddiweddarach heddiw," meddai llefarydd.
Tra'n dweud nad oedd y mesurau newydd yn Lloegr yn mynd mor bell â chyfnod clo fis Mawrth, gyda'r bwriad o gadw ysgolion, prifysgolion a gweithleoedd ar agor, dywedodd Mr Johnson "efallai" y byddai'n rhaid mynd ymhellach.
Dywedodd ei bod yn bosib y bydd y cyfyngiadau mewn lle am hyd at chwe mis arall.
"Mae'n rhaid pwysleisio, os nad yw'n gweithredoedd yn llwyddo i ostwng graddfa R - lledaeniad y feirws - o dan 1, ry'n ni'n cadw'r hawl i fynd ymhellach, gyda chyfyngiadau mwy sylweddol," meddai.
"Dwi eisiau osgoi'r gorfod cymryd y cam hwn, fel y mae'r gwledydd datganoledig, ond fyddwn ni ond yn gallu osgoi hynny os yw'r mesurau diweddaraf yn gweithio ac ymddygiad yn newid."
'Ail gyfnod clo ddim yn anochel'
Mewn ymateb dywedodd arweinydd Llafur yn San Steffan, Keir Starmer ei fod yn cefnogi'r mesurau newydd nad ond bod angen "arweinyddiaeth glir mewn adeg o argyfwng cenedlaethol," gan feirniadu neges ddiweddaraf Llywodraeth Prydain i weithio o adre', ar ôl cymell gweithwyr yn Lloegr i fynd yn ôl i'r swyddfa yn flaenorol.
Dywedodd Mr Starmer hefyd nad oedd cyfnod clo cenedlaethol arall yn "anochel".
"Dyw ail gyfnod clo ddim yn anochel. Byddai hynny yn fethiant enfawr ar ran y llywodraeth. Mae amser o hyd i atal hynny," meddai.
Gofynnodd Mr Starmer i'r Prif Weinidog pa "gefnogaeth argyfwng ariannol" fyddai ar gael i'r rheiny sy'n cael eu heffeithio gan y mesurau newydd.
"Fe fydd y cyfyngiadau newydd yn rhoi pwysau ychwanegol ar y sector lletygarwch ac ar y stryd fawr a chanol trefi - ar swyddi pobl ac ar fusnesau," meddai arweinydd y Blaid Lafur.
"Mae bwlch mawr yn fawn hyn. Byddai dod â'r cynllun ffyrlo i ben yn llwyr yn drychineb ac yn gwbl groes i'r mesurau sydd newydd eu cyhoeddi, allai bara hyd at chwe mis."
Mewn ymateb i'r galwadau i ymestyn y cynllun cynnal swyddi, dywedodd Mr Johnson y byddai'n "parhau i roi'n breichiau o gwmpas gweithwyr i wneud yn siŵr ein bod ni'n helpu pobl drwy'r argyfwng".
"Ond byddwn hefyd yn gwneud popeth yn ein gallu i gadw'r economi i symud a chadw pobl mewn swyddi ble bynnag y gallwn ni," meddai.
Trigolion dan glo yn colli arian teithio?
Fe wnaeth Mr Johnson hefyd addo edrych ar achos pobl sydd dan gyfyngiadau lleol yng Nghymru sydd wedi colli arian ar wyliau oedd wedi'u trefnu cyn y mesurau.
Dywedodd AS Merthyr Tudful a Rhymni, Gerald Jones, fod rhai cwmnïau gwyliau wedi "gwrthod ad-daliad" i rai o'i etholwyr fydd nawr methu teithio oherwydd y cyfyngiadau newydd, "am nad yw'r cyfyngiadau lleol yn dod dan ddeddfwriaeth Brydeinig - ac yn eu cyfeirio nhw at gyngor teithio y Swyddfa Dramor".
Dywedodd y Prif Weinidog nad oedd yn "ymwybodol o'r eithriad hwnnw" ond y byddai'n edrych ar y mater.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020