Gething: Ail gyfnod clo cenedlaethol 'ddim ar fin digwydd'
- Cyhoeddwyd
Nid yw cyfnod clo cenedlaethol arall ar hyd Cymru "ar fin digwydd, ond mae o hyd yn bosib," meddai'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething.
Daw ei sylwadau yn dilyn rhybudd gan Lywodraeth y DU am gyfyngiadau llymach i ddod yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19 ym mhedair cenedl y DU.
Mae dwy sir yng Nghymru - Caerffili a Rhondda Cynon Taf - yn destun cyfyngiadau lleol ar y funud.
Ychwanegodd Mr Gething y gellid ystyried camau ranbarthol.
Wrth siarad ar BBC Radio Wales fore dydd Llun, dywedodd: "Nid ydw i'n credu ei fod [cyfnod clo cenedlaethol] ar fin digwydd, ond mae o hyd yn bosib.
"Rhaid i ni wneud penderfyniadau bob un dydd am os oes angen cyfyngiadau lleol.
"Os ydym yn cyrraedd y pwynt ble mae gennym grŵp sylweddol o gyfyngiadau lleol mae angen i ni feddwl os oes angen cymryd agwedd ranbarthol neu os oes angen agwedd genedlaethol."
Dywedodd fod "ton gynyddol" o achosion ac roedd y mwyafrif yn ne-ddwyrain Cymru.
"Pob dydd mae'n rhaid i ni ystyried y darlun ar draws Cymru, gan gymharu ble'r ydym yn dechrau'r wythnos hon gyda lle'r oeddem ar ddechrau wythnos diwethaf a'r wythnos cyn honno.
"Bydd angen i ni wneud mwy o benderfyniadau y bore 'ma, fe fydd mwy o ffigyrau ar gael ac fe fydd yn rhaid i mi ystyried y cyngor a gwneud penderfyniad, gyda'r prif weinidog, ond mae'n gwbl bosib y gallai mwy o gyfyngiadau ddigwydd yr wythnos hon."
Aeth Mr Gething yn ei flaen i feirniadu'r diffyg cyfathrebu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi i ysgrifennydd iechyd Lloegr Matt Hancock gyhoeddi y gallai pobl dros Glawdd Offa dderbyn dirwy o hyd at £10,000 os oeddynt y methu hunan-ynysu.
Dywedodd: "Rwy'n siomedig iawn nad oedd y cyhoeddiad wedi dod yn dilyn trafodaeth gywir ymysg y pedair cenedl am y peth.
"Roeddwn i wedi gweld adroddiadau briffio yn y papurau ond dydy hyn ddim yr un peth a chael trafodaethau aeddfed gyda gweinidogion ar draws pedai cenedl y DU. Dyna'r ffordd yr wyf yn credu y dylai busnes gael ei gynnal."
Dywedodd Mr Gething y byddai Llywodraeth Cymru yn "ystyried" gosod dirwyon tebyg, ond hefyd fe fyddai'n edrych ar ffyrdd i gefnogi pobl oedd yn hunan-ynysu.
Yn ddiweddarach dydd Llun mae disgwyl y bydd prif ymgynghorydd meddygol Llywodraeth y DU, yr Athro Chris Whitty, yn dweud fod nifer achosion coronafeirws yn y DU "yn mynd i'r cyfeiriad anghywir."
Ychweanegodd Mr Gething yn ei gyfweliad fore dydd Llun nad oedd wedi gweld copi o'r hyn yr oedd yr Athro Whitty am ei gyhoeddi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Medi 2020
- Cyhoeddwyd20 Medi 2020
- Cyhoeddwyd18 Medi 2020