Eisteddfod 2021 dan fygythiad, meddai'r Urdd

  • Cyhoeddwyd
Eistreddfod Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Eisteddfod yr Urdd eleni ei gohirio oherwydd y pandemig

Mae'n bosib y bydd Eisteddfod yr Urdd a gweithgareddau chwaraeon y mudiad yn 2021 yn cael eu canslo oherwydd Covid-19, yn ôl y prif weithredwr Sian Lewis.

Wrth amlinellu "heriau enfawr i'r dyfodol" dywedodd Ms Lewis wrth bwyllgor o Aelodau'r Senedd nad oedd yn gweld Glan-llyn a Llangrannog, ynghyd â chanolfannau eraill y mudiad, yn ailagor yn llawn am flwyddyn academaidd gyfan.

Roedd Ms Lewis yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant y Senedd i effaith y pandemig ar yr iaith Gymraeg.

Mae canllawiau presennol Llywodraeth Cymru yn gwahardd ysgolion rhag cynnal ymweliadau dros nos tan fis Ionawr, meddai'r prif weithredwr.

Ond ychwanegodd fod yr Alban wedi gwahardd ymweliadau o'r fath am flwyddyn academaidd gyfan.

"Golygai hynny pe bai Llywodraeth Cymru yn dilyn yr un patrwm ni fydd yr un ysgol yn mynd i'r gwersylloedd yn y flwyddyn sydd i ddod, sy'n mynd i gael effaith enfawr ar ein hincwm," meddai.

Yn ôl Ms Lewis mae llai o bobl hefyd wedi ymaelodi â'r mudiad eleni.

Fel rheol mae incwm aelodau yn codi incwm blynyddol o £500,000, ond eleni mae'n debygol o fod tua £100,000.

Ym mis Gorffennaf dywedodd yr Urdd eu bod yn wyneb colledion o £14m dros ddwy flynedd, gan fygwth 80 o swyddi llawn amser, a 70 o swyddi achlysurol.