Troi’n 70 ac 'ailddysgu' byw gyda’r pandemig
- Cyhoeddwyd
Mae Meg Elis yn awdur a chyfieithydd sydd ar fin troi'n 70. Fel rhywun sydd wedi arfer byw a gweithio ar ei liwt ei hun ac fel nain fydd bellach yn cael ei hystyried yn y categori 'hŷn', mae hi'n teimlo 'diflastod, ofn a rhwystredigaeth' am yr effaith pellach ar ein bywydau wrth i gyfyngiadau gael eu hailgyflwyno mewn rhannau o'r wlad, chwe mis ers dechrau'r cyfnod clo cyntaf.
'Oed yr addewid'
Mi fydd yna un fantais i mi os daw ail gyfnod clo ymhen mis - mi fydda'i yn ddigon hen i fod yn gymwys am flaenoriaeth pan ddaw hi'n fater o gael slot i gael negas wedi'i gludo i'r tŷ. Iyp-i-dŵ...
Ar ochr arall y glorian, mae diflastod, ofn, ac yn fwy na dim, rhwystredigaeth - a dyna'r gwir anfantais y tro hwn, yn hytrach na'r dicter oedd amlycaf adeg y cloi cyntaf.
Nid dicter efo'r llywodraeth nac ymwelwyr anghyfrifol a heidiodd i'r ardal lle dwi'n byw (wel, hynny hefyd, wrth gwrs). Ond dig oeddwn i efo pawb oedd yn awgrymu pethau y gallwn eu gwneud yn ystod y cyfnod. Beth am weithio o adref, garddio, sgwennu, coginio, gwneud crefftau? Ia, dyna chi, popeth oeddwn i'n wneud yn fy mywyd bob-dydd cyn bod sôn am Covid...
Wrth nesáu at fy mhen-blwydd, a fu yna ymadrodd erioed mor anaddas ag 'oed yr addewid'?
Nid fy mod i'n tybio y bydd yna newid radical, ac yr a'i o un dydd yn teimlo ac yn gweithredu fel yr ydw i'n arferol, i fynd yn otomatig pan fydd y chweched ar hugain o Hydref yn gwawrio, dydd fy mhen-blwydd yn 70, i fod yn 'hen'. Dwi'n nain eisoes, neno'r Tad...
Cofleidio'r wyrion?
A dyna'r peth.
Dwi'n nain sy'n cael yr wyres acw i aros dros nos, yn croesawu hi a'i ffrindiau ysgol yma i chwarae yn yr ardd, i'w chodi o'r ysgol. Dal i wneud hynny; ond efo cyfyngiadau, wrth gwrs. A phwy a ŵyr nad gwaethygu fydd y cyfyngiadau, a'r rhwystredigaeth.
Fydda'i, yn 70 oed, hyd yn oed yn cael cofleidio Sioned [yr wyres], ei helpu i frwsio ei gwallt? ('Mae o fel tas wair'. 'Nacdi, Nain, mae o'n iawn, mi wna'i o.')
Yr holl bethau bach dibwys, hyd yn oed digwyddiadau hollol gyffredin fel y twtsh o annwyd a pheswch a gafodd pan ddychwelodd i'r ysgol uwchradd: niwsans mewn cyfnod arferol, ond achos dychryn eleni a'i gyrrodd at feddyg a phrawf a dyddiau o bryder.
Doedd byw trwy bryder felly, er mor fyr fu'r cyfnod, yn gwneud dim i dawelu fy meddwl, ond o leiaf yr oedd popeth yn iawn yn y diwedd.
Pryder gwaelodol arall sy'n gydymaith cyson i mi byth ers i hyn dorri, a wela'i mo hwnnw'n cael ei ddatrys mor sydyn: dwi'n nain i Dylan hefyd. Pryd gwela'i o a'i deulu?
Yr adeg hon, mi fuasai cynlluniau ar y gweill i deithio drosodd i'r Almaen tua diwedd y flwyddyn, edrych ymlaen at sbloet y marchnadoedd Nadolig yn Köln, a chyfle i weld y mab a'i wraig ac i sbwylio Dylan fydd yn tynnu at ei ddwyflwydd.
Marchnadoedd Nadolig, efo'r holl dorfeydd a'r stondinau yn llenwi'r strydoedd? Wela'i mohonyn nhw'n cael eu cynnal - nid ar eu ffurf arferol, beth bynnag. Hedfan? Dim peryg. Mi fuaswn yn teimlo'n saffach ar y trên, ac yn sicr yn saffach yn yr Almaen ei hun; bu hynny'n gysur o'r cychwyn, yn gwybod fod un rhan o'r teulu o leiaf yn byw dan lywodraeth sydd â rhyw glem beth i'w wneud.
'Ailddysgu' byw
Ond breuddwyd, ar hyn o bryd, fydd eu gweld yn y cnawd. Fawr o addewid.
Rydw i'n ceisio cysuro fy hun fy mod yn eithaf cadarn yn feddyliol, ac yn sicr yn fwy ffodus na llawer.
Mae hwn yn gyfnod o ailddysgu gwneud popeth: ailddysgu sut i siopa, sut i gyfarfod, sut i wleidydda, sut i addoli, sut i dderbyn addysg. Does gen i fawr o amynedd efo neb sy'n credu mai rhywbeth tymor-byr yw'r pandemig. Ond mae'n rhaid dysgu sut i fod yn amyneddgar efo fi fy hun dan y drefn newydd - hynny yw'r rhwystredigaeth.
Hefyd o ddiddordeb: