Ateb y Galw: Y cerddor Gwenan Gibbard
- Cyhoeddwyd

Y cerddor a'r delynores werin Gwenan Gibbard sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Guto Dafydd yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dwi'n cofio rhedeg at gi Alsatian ar faes y Steddfod pan oeddwn i tua tair oed a thaflu fy mreichiau o gwmpas ei wddw.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Jabas Jones.

Roedd y gyfres Jabas yn dilyn hynt a helynt Jabas Jones (canol) a'i ffrindiau ym Mhen Llýn
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Alla i ddim meddwl, ond yn sicr, fyddwn i ddim yn ei rannu efo cynulleidfa BBC Cymru Fyw!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Wrth wylio'r rhaglen ar y BBC am hanes Jackie Saleh o Gaerdydd a gafodd ei gwahanu oddi wrth ei thair merch pan gawson nhw eu herwgipio gan eu tad.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes, siŵr o fod..

O archif Ateb y Galw:

Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mae 'na sawl noson dda yn aros yn y cof ac yn aml mae 'na ganu yn rhan o'r noson yn rhywle! Mae gen i atgofion braf am nosweithiau dyddiau coleg a nosweithiau mewn Steddfodau, ond mae un o nosweithiau'r Ŵyl Ban Geltaidd yn Dingle, Iwerddon, yn un o'r nosweithiau gorau i mi ei chael erioed - noson hir o gyd-ganu efo ffrindiau o Gymru a'r gwledydd Celtaidd, mewn bar bach traddodiadol, clyd, ar stryd fawr y dref. Nefoedd ar y ddaear!
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n perthyn i Dic Deryn.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Pwllheli. Mae'n dref fywiog yn llawn hanes diddorol, y golygfeydd o fynyddoedd Eryri yn odidog a glan y môr yn denu ym mhob tywydd. A fama ydi adra.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Mae'n amhosib dewis ond un sydd wastad yn ffefryn ydi Strydoedd Aberstalwm.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.
"Llon yr wyf..."
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Y ffilm Stormydd Awst.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Mi liciwn i gael diod bach efo Nansi Richards (Telynores Maldwyn) ac Edith Evans (Telynores Eryri), gan obeithio y byddai'r ddwy yn dod â'u telynau efo nhw.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd am dro ar lwybr yr arfordir.

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn 870 milltir o hyd
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Cawl nionyn Ffrengig, cregyn gleision, tarten lemwn.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Boris Johnson - y peth cynta' fyswn i'n ei wneud fysa rhoi datganiad yn dweud na ddylid cyfeirio o hyn ymlaen at Brydain fel 'the nation'...
Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?
Dylan Cernyw