Ymdrech sylweddol i achub cath o goeden yn parhau
- Cyhoeddwyd
Mae ymdrech sylweddol i geisio achub cath sydd yn sownd mewn coeden yn parhau am y pedwerydd diwrnod.
Fe welwyd y gath yn sownd yn y goeden yn Nhredegar, Blaenau Gwent ddydd Sadwrn ac fe gafwyd ymdrech aflwyddiannus i'w hachub gan y Gwasanaeth Tân ddydd Sul.
Fe ofynnodd y criwiau tân lleol am gymorth ac mae cwmni wedi adeiladu twr o sgaffaldiau mewn ymdrech i achub yr anifail.
Mae bwyd wedi ei gynnig fel abwyd ond hyd y hyn does dim wedi llwyddo i ddenu'r gath i lawr.
Dywedodd Paul Ratledge, cyfarwyddwr y cwmni sydd yn cynorthwyo yn yr ymdrech, fod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cysylltu ag o yn gofyn am gymorth.
Dywedodd wrth BBC Cymru: "Fe gawson ni alwad gan y gwasanaeth tân lleol.
"Roedden nhw wedi ceisio defnyddio cherry pickers ac arbenigwr coed ond doedden nhw methu a'i gael."
Cytunodd y cwmni i adeiladu sgaffaldiau o amgylch y goeden ger tafarn Rhyd Hall yn ardal Y Rhyd o'r dref.
Ond er yr ymdrechion, parhau yn y goeden mae'r gath fore dydd Mawrth.
Ychwanegodd Mr Ratledge: "Rydym wedi bod yno bore ma yn cynnig bwyd. Rydym wedi sefydlu bordiau sgaffaldiau ar onglau nawr felly fe fydd modd i'r gath ddod i lawr ei hun.
"Fe ddaethon ni'n agos iawn iddi ond fe aeth yn uwch eto. Roeddwn i'n wylo ychydig."
Y gobaith ydy y bydd y bordiau newydd yn cynnig dihangfa i'r gath swil.
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Fe awn ni i wneud ein gwaith o ddydd i ddydd ac yna dychwelyd ati."
Dywedodd Leanne Skinner, sydd wedi bod yn cydlynu'r ymdrech i achub y gath fod gwaith y sgaffaldwyr wedi bod yn "anghygoel".
"Gan groesi bysedd mai heddiw fydd y dydd! Does dim byd mwy allwn i ei wneud wedi'r RSPCA, y gwasanaeth tân, dau cherry picker a sgaffaldiau. Cath wirion!"