Aelwydydd estynedig i bobl sy'n byw ar ben eu hunain
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu newid i gefnogi pobl sy'n byw ar eu pen eu hunain o ddydd Sadwrn ymlaen, wedi cyhoeddiad y prif weinidog.
Ar hyn o bryd mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd lle mae cyfyngiadau llymach mewn grym wedi'u gwahardd rhag cyfarfod â phobl o aelwydydd eraill dan do.
O 3 Hydref ymlaen, bydd pobl sy'n byw ar eu pen eu hunain mewn ardaloedd sydd â chyfyngiadau lleol, gan gynnwys rhieni sengl, yn cael ffurfio aelwyd estynedig dros dro.
Bydd rhaid i'r aelwyd arall fod yn yr un ardal leol, ac mae uchafswm o chwech yn cael bod ynddynt.
Y bwriad ydy atal pobl rhag teimlo'n unig ac yn ynysig, meddai'r llywodraeth.
Roedd Mark Drakeford eisioes wedi dweud na fydd newidiadau mawr eraill yn yr adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau Cymru.
Mae 2.3 miliwn o bobl bellach yn wynebu cyfyngiadau lleol wedi iddynt gael eu cyflwyno mewn 16 ardal ar draws gogledd a de Cymru.
Daeth cyfyngiadau newydd i rym yn siroedd Conwy, Dinbych, y Fflint a Wrecsam am 18:00 ddydd Iau yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19.
Yn yr ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol, mae'r rheolau sy'n caniatáu pobl i ffurfio aelwyd estynedig o gartrefi gwahanol wedi'u gwahardd.
Wrth gyhoeddi'r newid, dywedodd Mr Drakeford na ddylai "neb ohonom ni orfod wynebu'r coronafeirws ar ein pen ein hunain".
"Bydd creu swigod dros dro i bobl sengl a rhieni sengl mewn ardaloedd sydd â chyfyngiadau lleol yn sicrhau bod ganddyn nhw'r cymorth emosiynol angenrheidiol yn ystod y cyfnod hwn."
'Dim newidiadau arall y tro yma'
Yn siarad ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru fore Gwener, dywedodd: "Ni'n gwybod bod lot o gymhlethdod yn y sefyllfa ar hyn o bryd - dyna pam ni ddim yn mynd i wneud newidiadau arall y tro yma.
"Ond ni wedi clywed beth mae pobl wedi dweud wrthon ni - mae nifer o bobl fregus sy'n byw ar eu pen eu hunain, ac ar hyn o bryd dydyn nhw ddim yn gallu cael cyswllt gyda neb arall, ac mae hynny yn cael effaith ar bethau fel iechyd meddwl.
"Felly mae cyfle i ni wneud rhywbeth, ni'n ei wneud e yn ofalus fel ry'n ni'n trial gwneud bob tro, a'r gobaith yw y bydd hynny'n help i bobl."
Beth yw cyfyngiadau lleol?
Does dim hawl teithio mewn nac allan o ardal lle mae cyfyngiadau lleol heb esgus rhesymol sef:
gweithio, os nad ydych yn gallu gweithio o adref;
darparu gofal;
teithio ar gyfer addysg;
hyfforddiant a chystadlaethau chwaraeon proffesiynol;
darparu neu dderbyn cymorth brys;
cael mynediad neu dderbyn gwasanaeth cyhoeddus neu cyfarfod â gofyn cyfreithiol;
diogelu eich hun rhag niwed neu salwch neu ddianc rhag y posibilrwydd o niwed.
Mae modd teithio drwy'r ardaloedd yma - er enghraifft, ar ffyrdd fel yr A55 a'r M4.
Mae unigolion ond yn cael cyfarfod y tu allan i'w cartrefi.
Mae'r rheolau yn gymwys i bob sir yng Nghymru heblaw am Sir Fynwy, Sir Benfro, Ceredigion, Gwynedd, Ynys Môn, Powys a rhannau o Sir Gaerfyrddin.
Cafodd y cyfyngiadau eu cyflwyno i ddelio gyda'r cynnydd yn achosion Covid-19. Caerffili oedd y sir gyntaf a dydd Iau cyhoeddwyd bod y cyfyngiadau mewn grym yno am wythnos arall.
Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn y Senedd wedi croesawu'r newid.
Dywedodd Andrew RT Davies: "Mae'r cyfnodau clo wedi bod yn hir, a dydyn ni ddim drwyddi eto, felly er fy mod yn croesawu'r penderfyniad, allwn ni ddim gor-bwysleisio pwysigrwydd datrysiad hirdymor i unigrwydd a'r effaith all gael ar iechyd meddwl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd30 Medi 2020