Colled ariannol i elusennau yn sgil canslo heriau chwaraeon
- Cyhoeddwyd

Cafodd hanner marathon Caerdydd ei chanslo oherwydd y pandemig coronafeirws
Oherwydd cyfyngiadau Covid-19 mae nifer o ddigwyddiadau chwaraeon torfol wedi cael eu gohirio neu wedi gorfod addasu eleni.
Yn eu plith mae hanner marathon Caerdydd oedd i fod i'w gynnal y penwythnos hwn.
Athletwyr proffesiynol yn unig fydd yn cael rhedeg Marathon Llundain ddydd Sul a hynny ar gwrs arbennig heb gefnogwyr.
Gyda miloedd o bobl fel arfer yn rhedeg i godi arian mae elusennau wedi gweld cwymp sylweddol yn eu hincwm.
Y llynedd rhedodd 20,000 o bobl hanner marathon Caerdydd. Roedd ryw draean o'r athletwyr yn codi arian i achosion da gyda dros £3m o bunnau wedi ei godi i dros 90 o elusennau.
Yn ôl pennaeth elusen Macmillan yng Nghymru, Richard Pugh, mae gohirio digwyddiadau o'r fath wedi bod yn ergyd enfawr.
"Mae llawer o bobl yn rhedeg bob blwyddyn, ddim yn dweud wrth yr elusen, a wedyn yn rhoi arian - a dim jyst elusen ni.

Mae elusen Macmillan wedi colli 50% o'r arian fyddai fel arfer yn dod mewn meddai'r pennaeth yng Nghymru, Richard Pugh
"Beth sydd wedi digwydd dros y tair blynedd nesaf a blwyddyn yma, ni'n mynd i golli dros £150 miliwn. Mae hynny yn 3,000 o nyrsys, so chi'n gallu gweld beth mae'r effaith yn mynd i fod.
"Mae'r arian mae bobl yn ei roi i ni yn cael ei roi mewn i cyfleusterau, ond os ni ddim yn codi'r arian ni ddim yn gallu ei roi e i mewn i'r cyfleusterau, ac mae hynny'n mynd i fod yn ddiflas iawn i'r cleifion a'u teuluoedd nhw."
Codi arian i Macmillan er cof am ei dad oedd bwriad Gildas Griffiths. Dringo'r Wyddfa oedd y nod ond pan ddaeth Covid-19 bu'n rhaid addasu.
"Y syniad oedd i wneud e ym mis Ebrill blwyddyn yma ond oherwydd y coronafeirws ro'n ni di gorfod newid ein planiau, a benderfynes i falle neud e ym mis Gorffennaf ac roedd hwnna di gorfod newid hefyd.

Gildas Griffiths yn cwblhau ei her o ddringo'r Wyddfa gyda'i ffrindiau ar gyfer elusen Macmillan
"Felly gethon ni'r slot ma ddaeth lan ym mis Medi lle oedd e'n saff i ni neud e... oedd grŵp o 33 o ni yn barod i fynd a benderfynon ni beth bynnag yw'r tywydd, off a ni.
"Wi'n deall bod e'n anodd i drefnu pethau amrywiol fel dringo mynydd gyda grwpiau mawr ond mae fe yn fwy pwysig achos mae'r elusennau mawr a rhai bach wedi cael lot o drwbwl i gael budd-daliau neu rhoddion arian wrth bobl", meddai Mr Griffiths.
Ergyd drom
Addasu i'r normal newydd y mae'r elusennau'n gorfod ei wneud - mae eu coffrau yn wacach, ond y gwaith yr un mor heriol.
"Ni 'di gweld cwymp sylweddol yn ein hincwm ni dros y flwyddyn ddiwetha", meddai Menna Thomas, Arweinydd Polisi elusen Barnado's.
"Yng Nghymru nethon ni godi £50,000 blwyddyn diwethaf trwy ddigwyddiadau codi arian ac na'th hanner marathon yng Nghaerdydd godi £22,000 o'r arian yna. Felly mae e'n ergyd drom i ni pan fod un digwyddiad fel yna'n cael ei ganslo.
"Mae ychydig bach o arian brys wedi dod gan y Llywodraeth a gan rai asiantaethau eraill," meddai Ms Thomas, " ond a dweud y gwir mae codi arian yn lleol yn bwysig iawn, iawn i elusennau fel Barnado's trwy digwyddiadau fel na a'r siopau."

Yn hytrach na rhedeg strydoedd Llundain gyda'r rhedwyr 'elite' bydd Shane Williams yn rhedeg 26.2 milltir yn Nyffryn Aman ddydd Sul
Annog rhedwyr amatur i redeg 26 milltir yn lleol y mae trefnwyr marathon Llundain eleni. Un fydd yn gwneud hynny yn Nyffryn Aman yw'r cyn asgellwr rygbi rhyngwladol, Shane Williams.
Yn wreiddiol ei fwriad oedd cyd-redeg gyda chyn-gapten Cymru, a'i gyfaill, Ryan Jones yn Abertawe, ond mae cyfyngiadau ar deithio wedi rhoi stop ar y trefniant yna.
"Fi methu chwaith rhedeg lan i Frynaman achos ei fod e'n ardal Castell Nedd-Port Talbot sydd yn wynebu cyfyngiadau," meddai, "felly fi'n bwriadu rhedeg lan a nôl i Rhydaman cwpwl o weithie.
"Fi'n codi arian i'r elusen Wooden Spoon, a challenge yw e, a gobeithio allith rhai pobl - social distancing wrth gwrs - ddod i redeg 'bach o fe gyda fi hefyd dydd Sul a cadw cwmni i fi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2019