Yr hwyl a'r her o godi arian yn ystod cyfyngiadau Covid-19
- Cyhoeddwyd
O hanner marathon yn yr ardd i liwio barf yn binc, dydy'r locdown ddim yn atal pobl Cymru rhag codi miloedd i achosion da.
Ac er ei bod hi'n gyfnod anodd i elusennau, mae cefnogwyr o bob oed yn dod o hyd i ffyrdd creadigol ac unigryw i godi arian.
Dyma rai o'r straeon.
Henry ar ras
Mae Henry Edwards, pum mlwydd oed o Meisgyn, newydd orffen rhedeg 26 milltir dros gyfnod o 10 diwrnod gan godi dros £12,000 ar gyfer elusen sy'n helpu rhieni gyda galar colli plentyn.
Bu Cymru Fyw'n siarad gyda mam Henry, Katey, am sut mae Henry wedi codi calon y gymuned mewn cyfnod ansicr:
Mae Henry wedi codi £12,500 yn bump a thri chwarter oed.
Yn wreiddiol, roedden ni'n mynd i gerdded 2.6 milltir bob dydd fel rhan o her 2.6 (ymgyrch i godi arian i'r elusennau a oedd wedi colli arian oherwydd bod marathon Llundain wedi'i ganslo). Ond o'r diwrnod cyntaf roedd Henry yn rhedeg a rhedeg.
Do'n i ddim yn barod am hynny felly cefais sioc. Roedd fy ngŵr yn meddwl bod rhywbeth wedi mynd o'i le oherwydd bod ni wedi dod yn ôl i'r tŷ mor gyflym.
Rhedodd Henry 2.6 milltir bob dydd am 10 diwrnod a chwblhaodd ei rediad olaf ar 26 Ebrill. Rydyn ni hyd yn oed wedi gwneud cwpl o runs ers hynny felly mae wedi cychwyn diddordeb Henry mewn rhedeg.
Ein amser cyflymaf oedd 41 munud.
Profedigaeth
Rydyn ni'n gefnogwyr 2 wish upon a star. Collodd fy chwaer ei mab William yn sydyn mewn damwain cartref felly mae hi a minnau wedi cael cefnogaeth ganddyn nhw mewn sawl ffordd.
Yn ein calon nid oedd unrhyw elusen arall.
Bu farw William cyn i Henry gael ei eni ond mae'n deall bod yr elusen yn helpu teuluoedd sy' wedi colli plentyn.
Yn llygaid Henry roedd e jyst yn rhedeg.
Cefnogaeth
Roedd y gymuned o gymorth mawr ac roedd pobl yn clapio ac yn chwarae drymiau a cherddoriaeth - roedd hynny'n hwb enfawr bob dydd.
Ar y diwrnod olaf roedd ceir heddlu yn arwain y ffordd a daeth hofrennydd yr heddlu allan i arwain Henry i fyny'r rhan olaf.
Doedd e ddim yn gallu credu bod yr hofrennydd ar ei gyfer e.
Cawsom nawdd o bob cwr o'r byd - clywodd teuluoedd o Awstralia amdano ar Facebook, roedd pobl o'r Iseldiroedd yn ei gefnogi. Mae 'na bobl mor garedig nad ydw i hyd yn oed yn eu hadnabod.
Mae Henry yn cŵl fel ciwcymbr.
Marathon llwybr yr ardd
Mae Stephen Williams o Benygroes, Gwynedd, yn rhedeg llwybr yr ardd 1,318 o weithiau i elusen ganser:
Dw i'n neud pump hanner marathon ar lwybr yr ardd gefn. Mae'r llwybr yn 16 medr so dw i'n gorfod rhedeg o 1318 o weithiau er mwyn gwneud hanner marathon. Dw i'n neud o bump penwythnos ar ôl eu gilydd a dw i wedi gwneud y tri cynta'n barod.
Dw i wedi arfer rhedeg gwahanol sialensau ond dw i heb wneud dim ers tair mlynedd ac o'n i heb redeg milltir ers deufis.
So nes i'r un cynta' heb dim math o hyfforddi a nes i wario'r wythnos wedyn yn gwybod am y peth.
'Oedd coesau fi'n sgrechian. Oedd yr ail hanner marathon lot gwell. Nes i shafio 18 munud off yr amser ond mae'r troi pob 10-15 eiliad yn anodd ar y joints.
Ysbrydoliaeth
Dw i'n codi arian i Macmillan ers dros 20 mlynedd ers i Mam gael diagnosis cynta' o cancr. Gollon ni Mam 10 mlynedd wedyn ar ôl ei hail diagnosis.
Bob un sialens dw i wedi neud i godi arian, Mam sy' yn fy meddwl i.
Dw i wedi gweld hi yn cwffio trwy pethe, yn enwedig yn y diwedd, a fy nhad yn supportio hi. Dydy ychydig o boen am ychydig o oriau ddim yn ddim byd a bydd yn helpu pobl eraill sy'n mynd trwy hynny.
Sacrifice bach ydy o a dyna yw'n motivation i.
Dw i'n gweitho i Macmillan fel partner busnes gwirfoddoli a wedi bod yn hel pres i nhw am flynyddoedd cyn gweithio 'da nhw.
Efo locdown mae'n digwyddiadau codi arian ni gyd yn cael eu canslo.
Mae'n gyfnod anodd i bob elusen sy'n neud gwaith mor arbennig. Dyna'r straen ar gyfer pob elusen - 'da ni'n cael hit o ran ein hincwm ond mae mwy o alw am ein gwasanaethau ni.
Hynny oedd yn chwarae ar fy meddwl a'r noson hynny heb feddwl am y consequences, nes i benderfynu gwneud her sy'n ffitio mewn gyda'r locdown.
Pincio barf nes cael peint
Drwy liwio'i farf yn binc, mae Derwyn Pugh o Benegoes wedi codi dros £2000 i'r uned cemotherapi ynYsbyty Bronglais, Aberystwyth:
I gychwyn, dydw i ddim yn arfer bod yn ddyn barfog! Ond pan ddaeth y cyhoeddiad fod y wlad am gael ei chau lawr, penderfynias na fyddwn yn siafio nes y byddwn yn cael fy mheint cyntaf wrth y bar - ac mae pawb sydd yn fy 'nabod yn gwybod fy mod yn un am fy mheint.
Beth bynnag, rhyw ddiwrnod roedd fy wyres, Malen, wrthi'n lliwio ei gwallt yn binc o bob lliw. Ac mi wnes i ryw gynnig dros ysgwydd y byddwn innau yn lliwio fy marf.
Cyn i mi droi rownd, roedd popeth wedi ei drefnu ac roedd y cynlluniau i liwio y farf yma'n binc er budd Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais ar droed.
Erbyn hyn, mae'r swm wedi cyrraedd dros £2,000. A bod yn onest, yn fy meddwl i, roeddwn wedi ryw obeithio codi tua £200. Feddyliais i erioed y byddai tamaid o farf binc yn denu cymaint o sylw ac yn gwneud cymaint o les!
Achos da
Dewision ni Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais oherwydd gwaith arbennig Dr Elin Jones. Mae'n cael ei hadnabod am yr holl waith di-flino mae'n ei wneud yno i helpu'r holl gleifion sy'n dioddef o ganser.
Mae'n freuddwyd gan Elin i wella adnoddau Cemotherapi yn Ysbyty Bronglais ac i gael uned newydd sbon. Roeddwn yn awyddus i allu cyfrannu tuag at achos mor deilwng ac achos sydd mor agos at galonnau cymaint ohonom.
Ymateb i'r barf
Wrth i mi basio yn y 'pic-yp' drwy'r pentre, dwi'n gweld ambell i wên yn lledaenu ar draws ambell wyneb…a chlywed ambell i chwerthiniad! Mae nifer fawr o fobl wedi hoffi'r lluniau ar Facebook a dwi'n teimlo mor falch a diolchgar fod cymaint o bobl wedi cyfrannu a dangos cymaint o gefnogaeth.
Mae'n deimlad braf iawn fy mod wedi gallu codi arian at achos mor haeddiannol a hynny mewn cyfnod sy' mor fregus ac anodd i ni gyd.
Codi gwên a chodi calon
Mae dau ffrind o Gaergybi, Garry Stewart a Carl Hagan, wedi codi dros £9000 ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) drwy greu fideos doniol. Mae Garry'n gyn-filwr sy'n dioddef o PTSD (Anhwylder Straen Wedi Trawma) ers ei gyfnod yn Affganistan.
Bu Garry'n siarad â Cymru Fyw:
Oherwydd fy PTSD, o'n i bob amser eisiau helpu pobl â phroblemau iechyd meddwl. Dw i'n ceisio cadw'n sane fy hun bob dydd.
Mae gwneud y fideos hyn wedi helpu. Mae wedi helpu i ddod â chymuned at ei gilydd.
Ry'n ni am gadw pobl yn hapus yn y locdown, mae mor drist ac rydyn ni am godi arian ar gyfer yr elusen lleol Awyr Las. Ni wedi codi £9600 mewn pump wythnos.
Dw i wedi cael negeseuon gan bobl sy'n cael trafferth gyda iechyd meddwl yn ystod y locdown a dwi'n trio helpu pobl ar ôl bod trwyddo fy hun gan ddweud wrth bobl am siarad efo rhywun.
Dw i'n cael cefnogaeth gan y GIG fel y mae oherwydd 'mod i'n cael therapi dros y ffôn.
Gweithiais fel gyrrwr HGV ar ôl gadael y fyddin ond cefais breakdown. O'n i bron a bod yn ddigartref ond mae'r fyddin wedi fy helpu.
Allai ddim credu'r ymateb i'r fideos a pha mor hael mae pobl wedi bod - roeddem wir eisiau helpu pobl ac i fod yn onest mae wedi fy helpu i hefyd.
Mae 'na lawer o bobl yng Nghaergybi gyda dim llawer o arian ond maen nhw wedi trio'u gorau i helpu ac mae'r ffordd maen nhw wedi ein cefnogi ni wedi bod yn anhygoel.