Rhybudd nyrs wedi profedigaeth Covid-19
- Cyhoeddwyd
Mae nyrs gofal critigol o'r gogledd, a gollodd ei nain i Covid-19, yn annog eraill i ddilyn y canllawiau i atal y feirws rhag ymledu.
Mae Leisa Jones yn gweithio ar Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd, ac fe fuodd yn gweithio trwy gydol y pandemig yn trin cleifion yn yr uned.
Fe welodd yr effaith y gall yr haint ei gael ar gleifion a'u teuluoedd gyda'i llygaid ei hun, ac fe ddioddefodd brofedigaeth bersonol hefyd o achos yr haint.
Collodd Leisa ei nain, Eleanor Jones, yn gynharach eleni ar ôl iddi ddal coronafeirws yn 91 oed.
Dywedodd Leisa Jones: "Roeddwn i a fy nheulu yn hynod ofidus o fod wedi colli ein nain i Covid-19 ond hoffem ddiolch i staff Ysbyty Penrhos Stanley am y gofal a ddarparwyd ganddynt yn ystod ei hamser yn yr ysbyty.
"Cyrhaeddodd oedran gwych ac roedd wedi byw ei bywyd i'r eithaf. Fodd bynnag, roedd yn anffodus iawn iddi ddal y feirws a dyna achosodd ei marwolaeth.
"Roedd hyn yn fy atgoffa ei bod yn anhygoel o bwysig i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru. Mae yna bobl fregus yn ein cymdeithas ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal y feirws rhag ymledu er mwyn sicrhau ein bod yn cadw pawb yn ddiogel," meddai.
Paratoi at y gaeaf
Wrth i nifer yr achosion gynyddu gyda a mesurau llymach yn cael eu cyflwyno mewn pedair sir ledled y gogledd, mae Leisa Jones yn paratoi i ofalu am fwy o gleifion dros fisoedd y gaeaf.
"I mi, y rhan anoddaf oedd peidio â chael perthnasau yn ymweld â'u hanwyliaid. Roedd llawer o'n cleifion yn mynd trwy'r amser anoddaf yn eu bywydau ac roeddent yn gwneud hyn heb gefnogaeth eu teulu, sy'n amhrisiadwy i'n cleifion mwyaf sâl."
Mae hi yn annog y cyhoedd i gydweithio er mwyn ceisio cadw nifer yr achosion yn isel ar draws ysbytai'r gogledd:
"Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am bopeth maen nhw wedi'i wneud hyd yn hyn. Mae eu cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy, mae'r haelioni a'r gefnogaeth a welsom dros y chwe mis diwethaf wedi bod yn anhygoel.
"Fodd bynnag, cofiwch yr effaith real iawn y mae'r feirws hwn yn ei chael arnom ni i gyd, y gymdeithas gyfan a'n system gofal iechyd.
"Y ffordd orau i amddiffyn ein hunain yw parhau i wisgo masgiau neu orchuddion wyneb dan do, sicrhau ein bod ni'n ymbellhau'n gymdeithasol oddi wrth ein gilydd a golchi ein dwylo'n rheolaidd yw'r ffordd orau i atal y feirws rhag lledaenu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2020