'Diffyg cefnogaeth i fwydo o'r fron yn y cyfnod clo'

  • Cyhoeddwyd
Leonie Williams and MarleyFfynhonnell y llun, Leonie Williams
Disgrifiad o’r llun,

Leonie Williams a Marley, sydd bellach yn chwe mis

Mae astudiaeth newydd yn dangos bod 30% o famau oedd yn bwydo o'r fron wedi rhoi'r gorau iddi yn ystod y cyfnod clo am nad oedden nhw'n gallu cael "cefnogaeth wyneb yn wyneb".

Yn ôl gwaith ymchwil gan Brifysgol Abertawe, cafodd rhai ymwelwyr iechyd eu hadleoli ym mis Mawrth er mwyn cynorthwyo'r Gwasanaeth Iechyd yn y frwydr yn erbyn coronafeirws, ac oherwydd y cyfnod clo doedd yna ddim grwpiau cefnogi i famau oedd yn bwydo o'r fron nac ymweliadau i'r cartref.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi annog unrhyw un oedd yn cael trafferth i siarad â staff unedau mamolaeth.

Un o'r rhai a gafodd drafferthion yn cael cymorth proffesiynol oedd Leonie Williams wrth iddi fwydo ei merch fach, Marley ar ddechrau cyfnod Covid-19.

Cafodd Marley ei geni ym Mhen-y-bont yn fabi 7 pwys 11 owns ar 10 Mawrth ond yn fuan "roeddwn yn teimlo fy mod ar ben fy hun a bod y byd yn cau lawr", meddai Leonie.

'Neud e ar Zoom ddim yr un fath'

Dywedodd: "Fe wnaeth yr ymwelydd iechyd ffonio ar ôl pythefnos - ond dwi eto i weld rhywun wyneb yn wyneb.

"Roeddwn i wir am barhau i fwydo o'r fron ond bu'n rhaid i fi roi'r gorau iddi gan fod y cyfan yn ormod.

"Roeddwn yn siomedig fy mod wedi gorfod troi at laeth potel ond roeddwn i mewn poen ac fe fyddai siarad â mamau eraill wedi helpu llawer er mwyn gweld a oedd fy mhrofiad yn normal neu beidio.

"Nid dim ond y cymorth proffesiynol roeddwn i ei angen ond y cyfeillgarwch hefyd - doedd 'neud e ar Zoom ddim yr un fath."

Ffynhonnell y llun, Leonie Williams
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd Leonie enedigaeth i Marley lai na phythefnos cyn y cyfnod clo

Amy Brown, Athro Iechyd Cyhoeddus Plant ym Mhrifysgol Abertawe, wnaeth arwain y gwaith ymchwil ac mae'n dweud bod rhai rhieni "wedi'u gadael ar eu pennau eu hunain".

Mae'r ymchwil yn dangos mai mamau llai breintiedig a gafodd eu taro waethaf - y rhai oedd yn byw mewn fflatiau uchel heb ardd breifat neu barc yn agos, a hefyd y rhai oedd heb gysylltiad cyflym â'r we.

"Mae yna rai grwpiau na chafodd gymorth am nad oedd hi'n bosib i ymwelwyr iechyd ddod atynt - ac o ganlyniad cafodd nifer o weithwyr unedau mamolaeth eu dargyfeirio i ddelio â chleifion haint coronafeirws," meddai'r adroddiad.

"Yn aml doedd mamau newydd ddim yn gwybod lle i gael cymorth."

Ffynhonnell y llun, Photography by Charlotte
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Emma Elias na fyddai hi wedi gallu parhau i fwydo Dahlia heb gefnogaeth

Ym mis Mai - bron i ddeufis wedi cychwyn y cyfnod clo - rhoddodd Emma Elias enedigaeth i'w hail ferch ac roedd yna drafferthion bwydo o'r fron ar y dechrau.

Ond fe gafodd Emma ei chyfeirio at arbenigwr sirol ar fwydo o'r fron a chael cymorth, ond dywed y byddai cyfarfod â grŵp o famau eraill wedi helpu.

Ffynhonnell y llun, Photography by Charlotte
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Emma a'r teulu ond yn gadael eu cartref unwaith yr wythnos i fynd i weld arbenigwr ar fwydo o'r fron

Mae'r astudiaeth, er hynny, yn dangos bod 40% o famau newydd a holwyd wedi cael profiad da wrth fwydo o'r fron yn ystod y cyfnod clo - yn rhannol "am nad oeddynt wedi cael problemau, yn byw gyda phartneriaid cefnogol a ddim yn cael ymwelwyr".

Mae'r Athro Brown am i fyrddau iechyd a llywodraethau sicrhau bod mamau sydd wedi cael trafferthion yn cael y "gefnogaeth briodol" wrth i ail don o'r haint gyrraedd y DU ac wrth i nifer fawr o ardaloedd wynebu cyfyngiadau llymach.

Ffynhonnell y llun, Alamy
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Amy Brown yn awdur chwe llyfr ar fwydo plant a chymorth i rieni

"Rhaid i lywodraethau a byrddau iechyd feddwl am ffyrdd y gall grwpiau gyfarfod yn ddiogel gan nad yw'n gwneud synnwyr eu bod yn haws cyfarfod mewn tafarn na chael cefnogaeth bwydo o'r fron," meddai'r Athro Brown.

"Rhaid hefyd sicrhau bod ymwelwyr iechyd yn gallu mynd i gartrefi gyda'r offer diogelwch priodol."

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod mamau newydd, "boed yn rhoi genedigaeth mewn ysbyty neu adref o dan ofal bydwraig, yn parhau i dderbyn cefnogaeth er mwyn bwydo o'r fron".

"Wedi cyrraedd adref, mae bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn gweithio gyda mamau i asesu eu hanghenion ac yn targedu cefnogaeth ac ymweliadau yn ôl y galw," meddai llefarydd.

"Dylai unrhyw un sydd ag unrhyw bryderon neu sydd angen cymorth i fwydo o'r fron gysylltu gyda'r fydwraig neu eu hymwelydd iechyd yn uniongyrchol."