Pro14: Scarlets 27-30 Munster
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Munster i sicrhau buddugoliaeth syfrdanol oddi cartref yn erbyn y Scarlets yn y Pro14, a hynny gyda chic gosb hwyr gan yr eilydd Ben Healy.
Roedd buddugoliaeth Munster yn fwy trawiadol gan mai dim ond 14 o chwaraewyr oedd gan y Gwyddelod ar ddiwedd yr ornest, wedi i'w capten Peter O'Mahony gael ei hel o'r cae wedi 69 munud.
Roedd yn edrych fod ymdrechion Leigh Halfpenny - record o 27 o bwyntiau - yn ddigon i hawlio buddugoliaeth i'r Scarlets.
Ond daeth Munster yn ôl a sgorio 13 o bwyntiau yn y 10 munud olaf, ac fe ddaeth buddugoliaeth i'r ymwelwyr gyda chic olaf y gêm gyda Healy'n sicrhau'r pwyntiau gyda chic gosb.
Dyma'r unig adeg drwy gydol y gêm lle'r oedd Munster wedi bod ar y blaen, er iddynt sgorio tri chais i gyd, gyda Jack O'Donoghue, Chris Farrell a Kevin O'Byrne yn hawlio ceisiadau i'r Gwyddelod.
Llwyddodd Halfpenny i sgorio naw cic gosb i'r Sgarlets, sydd yn record pwyntiau chwaraewr unigol i'r rhanbarth yn ystod un gêm ac yn gyfartal gyda record Luciano Orquera i Aironi yn erbyn Benetton yn Rhagfyr 2011.
Ond er ei ymdrechion doedd hynny dim yn ddigon i atal Munster rhag brwydro'n ôl i hawlio'r fuddugoliaeth.
Roedd canolwr y Scarlets Johnny Williams yn absennol am ei fod wedi gorfod hunan ynysu ar ôl bod mewn cyswllt agos gydag unigolyn oedd wedi ei heintio gyda Covid-19, er nad ydyw wedi profi'n bositif ei hun.
Roedd Rob Evans, Samson Lee a Liam Williams hefyd yn absennol o achos anafiadau.
Gyda munud yn unig ar ôl roedd y sgôr yn gyfartal, ond mewn diweddglo dramatig fe ildiodd y Scarlets gic gosb 51 metr i ffwrdd o'r pyst.
Ac roedd hynny'n ddigon o gyfle i Healy hawlio buddugoliaeth gofiadwy i'r ymwelwyr.