Pro14: Caeredin 10-25 Gweilch
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd y Gweilch fuddugoliaeth haeddiannol oddi cartref yn erbyn Caeredin nos Wener ym Murrayfield.
Caeredin, oedd heb Luke Crosbie a Magnus Bradbury o achos anafiadau, aeth ar y blaen gyda chais gosb.
Ond fe frwydrodd y Gweilch yn ôl gyda cheisiau gan Nicky Smith a Mat Protheroe gan gynnig mantais o 20-10 i'r rhanbarth o Gymru ar yr hanner.
Ychwanegodd Protheroe gais arall ar ei ymddangosiad cyntaf i'r Gweilch, wrth i'r ymwelwyr hawlio buddugoliaeth gyfforddus yn y diwedd.
Ychydig iawn o'r doniau oedd yn gyfrifol am lwyddiant Caeredin yn ystod y tymor diwethaf oedd i'w weld nos Wener, ac roedd eu chwarae yn llawn camgymeriadau ar adegau.
Doedd cicio cywrain arferol Jaco van der Walt ddim cystal ag y mae fel arfer i Gaeredin, ac unwaith yr aeth y Gweilch ar y blaen roedd y fuddugoliaeth yn un hawdd yn y pen draw.
Gweilch: Evans; Protheroe, Watkin, Williams, Morgan; Myler, Webb; Smith, Parry, Botha, Beard, Wyn Jones, Cracknell, Tipuric (capten), Morris.
Eilyddion: Lake, Jones, Fia, Davies, Lydiate, Morgan-Williams, Thomas, Thomas-Wheeler.
Caeredin: Hoyland; Graham, Bennett, Dean, Farndale; Van der Walt, Shiel; Schoeman, McInally (capten), Berghan, Toolis, Gilchrist, Bradbury, Crosbie, Haining.
Eilyddion: Cherry, Bhatti, Nel, Davidson, Watson, Nutton, Chamberlain, Taylor.