Llifogydd yn taro pentref yng Ngwynedd am yr eildro eleni
- Cyhoeddwyd
Mae cartrefi wedi dioddef llifogydd am yr eildro ar ôl i afon orlifo yn dilyn glaw trwm.
Dywedodd James Brown fod llifogydd yng nghartref ei fam a'i fflat cyfagos yn Abergwyngregyn yng Ngwynedd fore Sul.
Dywedodd fod yr eiddo yn dal i gael ei atgyweirio ar ôl llifogydd ym mis Awst.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi dau rybudd llifogydd yng Ngheredigion ar gyfer Afon Rheidol yn Aberystwyth ac Afon Aeron yn Aberaeron.
Mae sawl rhybudd llifogydd hefyd mewn grym ledled Cymru.
Dywedodd Mr Brown y gallai yrru trwy'r ardal gyda thractor yn unig.
"Mae'r dŵr yn llifo'n gynddeiriog o sydyn," meddai.
"Mae'r afon wedi torri dros y lan yn y cae. Dyma'r ail dro iddi orlifo'r tŷ a'r fflat."
Ym mis Awst, bu'n rhaid i ddiffoddwyr tân helpu chwech o bobl i ddiogelwch ar ôl llifogydd yn Abergwyngregyn, rhwng Llanfairfechan a Bangor.
Cafwyd llifogydd yn nistyllfa Aber Falls ar y pryd pan dorrodd Afon Aber ar ei glannau.
Mae glaw trwm hefyd wedi achosi llifogydd a thrafferthion teithio i rannau eraill o'r DU.
Dywedodd swyddogion priffyrdd o Traffig Cymru fod glaw trwm yn achosi "amodau gyrru anodd" ar y ffyrdd ar draws y rhwydwaith.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Awst 2020