Aaron Ramsey a Hal Robson-Kanu ddim ar gael i herio Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Hal Robson-Kanu ac Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd Hal Robson-Kanu nac Aaron Ramsey ar gael i herio Lloegr yn Wembley

Ni fydd Aaron Ramsey na Hal Robson-Kanu ar gael i dîm pêl-droed rhyngwladol Cymru i herio Lloegr yr wythnos hon.

Mae'r gêm gyfeillgar yn cael ei chwarae tu ôl i ddrysau caeedig yn Wembley nos Iau.

Bydd Cymru yna'n teithio i wynebu Gweriniaeth Iwerddon oddi cartref ddydd Sul yng Nghynghrair y Cenhedloedd cyn mynd ymlaen i herio Bwlgaria nos Fercher, 14 Hydref.

Ni fydd Robson-Kanu ar gael ar gyfer yr un o'r gemau hynny chwaith oherwydd anaf.

Dydy Ramsey ddim yn gallu ymuno â'r garfan oherwydd ei fod yn hunan-ynysu wedi i ddau aelod o staff Juventus gael profion positif am Covid-19.

Ond mae'r tîm hyfforddi yn obeithiol y bydd modd i'r chwaraewr canol cae ymuno â'r garfan wedi'r gêm yn Llundain.

Mae'r garfan eisoes heb Gareth Bale a Joe Allen am y tair gêm oherwydd anafiadau.