Gareth Bale allan o dair gêm nesaf Cymru gydag anaf

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bale wedi ailymuno â Spurs ar fenthyg o Real Madrid am weddill y tymor

Bydd Cymru heb Gareth Bale am y gêm gyfeillgar yn erbyn Lloegr a'r ddwy gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a Bwlgaria oherwydd anaf.

Roedd gan y chwaraewr 31 oed anaf i'w ben-glin cyn iddo ailymuno gyda Tottenham Hotspur o Real Madrid yn gynharach yn y mis.

Wrth gyhoeddi'r garfan ddydd Mercher, dywedodd rheolwr Cymru, Ryan Giggs: "Dyw e ddim byd difrifol, ond mae'n un i gadw llygad arno."

Y newyddion gwell i Giggs yw fod Aaron Ramsey o glwb Juventus yn dychwelyd i'r garfan.

Mae Rhys Norrington-Davies - amddiffynnwr Sheffield United sydd ar fenthyg gyda Luton Town - wedi cael ei alw i'r garfan am y tro cyntaf.

Yr un arall yn y garfan sydd heb gap hyd yma yw chwaraewr canol cae Nottingham Forest sydd ar fenthyg gyda Lincoln City, Brennan Johnson.

Yn yr amddiffyn, mae Chris Mepham a Joe Rodon yn dychwelyd wedi anafiadau, ond mae Ashley Williams, Tom Lockyer a James Lawrence wedi eu gadael allan.

Bydd Cymru'n herio Lloegr yn Wembley ar 8 Hydref cyn y ddwy gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn ar ddydd Sul, 11 Hydref ac yna Bwlgaria yn Sofia ar ddydd Mercher, 14 Hydref.

Carfan Cymru

Golwyr: Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies.

Amddiffynwyr: Chris Gunter, Ben Davies, Connor Roberts, Ethan Ampadu, Chris Mepham, Joe Rodon, Neco Williams, Ben Cabango, Rhys Norrington-Davies.

Canol Cae: Aaron Ramsey, Jonathan Williams, Harry Wilson, David Brooks, Joe Morrell, Will Vaulks, Matthew Smith, Dylan Levitt, Brennan Johnson.

Blaenwyr: Hal Robson-Kanu, Daniel James, Kieffer Moore, Tyler Roberts, Ben Woodburn, Rabbi Matondo.