Cynnydd mewn ymosodiadau poeri neu beswch ar staff 999
- Cyhoeddwyd
Mae heddluoedd wedi rhybuddio bod troseddwyr yn defnyddio Covid-19 fel arf yn erbyn swyddogion.
Mae gwaith ymchwil gan BBC Cymru yn awgrymu fod nifer yr ymosodiadau yn ymwneud â phoeri neu beswch wedi dyblu rhwng Mawrth a Mehefin eleni, o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
Dywedodd Mark Jones, ysgrifennydd cyffredinol Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru, fod y duedd yn un "pryderus" a'i fod â'r potensial o ladd aelod o'r gwasanaethau brys.
"Mae'n rhywbeth nad ydym wedi gweld o'r blaen, i gael ein bygwth gan lofrudd tawel nad oes modd ei weld - mae'n ofnadwy o beth," meddai.
'Cwbl annerbyniol'
Yn y gogledd, rhwng Mawrth a Mehefin 2020, roedd yna 160 o droseddau yn erbyn aelodau o'r gwasanaethau brys. O'r rhain roedd 30 yn ymwneud â phoeri neu besychu.
Yn yr un cyfnod yn 2019, roedd 153 o ymosodiadau yn y gwasanaethau brys, gyda 14 o'r rhain yn ymwneud â phoeri neu beswch.
Dywedodd dirprwy gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Richard Debicki, fod y sefyllfa'n gwbl annerbyniol ac y dylai troseddwyr wynebu grym y gyfraith i'r eithaf.
O ran Heddlu'r De roedd yna 345 o ymosodiadau yn erbyn swyddogion y gwasanaethau brys rhwng 1 Mawrth a 31 Mai 2020.
Roedd 55 yn ymwneud â Covid-19 gan ymwneud â phesychu neu boeri ar swyddogion.
"Beth rydym wedi ei weld yw nifer o bobl yn gwneud poeri yn arf gan wneud i ni gredu ei bod yn bosib eu bod wedi ein heintio â Covid-19," meddai Matt Jukes, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru.
"Mae'n achosi pryder mawr i fi ac i'r swyddogion."
Ychwanegodd fod swyddogion wedi dweud wrtho y byddai'n well ganddynt wynebu ymosodiad corfforol fel cael dwrn yn hytrach na rhywun yn poeri atynt.
Roedd yna gynnydd bychan wedi bod yn nifer yr ymosodiadau ar swyddogion Heddlu Gwent, o 51 i 57.
Yn ardal Heddlu Dyfed-Powys bu gostyngiad yn nifer yr ymosodiadau o'r fath, o 111 rhwng 1 Mawrth a 31 Mai 2019 i 96 yn yr un cyfnod yn 2020.
Yn ddiweddar cafodd Darrell Glen Humphries, 53 oed, ei garcharu am 26 wythnos am besychu'n fwriadol ar y Cwnstabl David Roberts-Ablett yng Nghaerdydd.
"Roedd e'n weithred fwriadol, fe drodd ei ben ac roedd o'n syllu arnaf," meddai'r cwnstabl.
"Roedd hi'n teimlo fel ei fod yn fy nhargedu... fe wnaeth o edrych yn syth arnaf a pheswch arnaf.
"Yn ffodus roeddwn yn gwisgo fy sbectol a mwgwd."
Ychwanegodd: "Dywedodd fod ganddo symptomau Covid. Meddyliais ydw i nawr wedi dal yr haint?
"Mae rhywun yn meddwl am oblygiadau i fi, fy nheulu a'm cydweithwyr.
"Mae yna oblygiadau dynol, pe bai ganddo Covid, lle mae hynny yn ein gadael? Mae'r haint yn llofrudd tawel."
Dedfrydau hirach
Ym mis Gorffennaf fe wnaeth Llywodraeth y DU lansio cyfnod ymgynghorol ar eu bwriad i ddyblu'r ddedfryd uchaf sydd ar gael ar gyfer ymosodiadau ar y gwasanaethau brys.
Fis diwethaf fe wnaeth y llywodraeth gadarnhau y byddant yn cyflwyno deddfwriaeth newydd fydd yn cynyddu'r ddedfryd uchaf o 12 mis i ddwy flynedd.
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones wedi annog y llysoedd i weithredu yn rymus.
"Rwy'n croesawu unrhyw gynnydd yn hyd dedfrydau am ymosodiadau ar swyddogion y gwasanaethau brys," meddai.
"Ond dyw deddfwriaeth ond mor dda â pharodrwydd barnwyr ac ynadon i osod dedfrydau o'r fath."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2020
- Cyhoeddwyd12 Mai 2018
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2018