Cynnydd sylweddol yn y nifer sy'n aros am lawdriniaeth
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n aros am lawdriniaethau arferol wedi cynyddu 600%, gyda bron i 70,000 yn aros yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law y BBC.
Dywedodd un llawfeddyg orthopedig blaenllaw y gallai gymryd hyd at dair blynedd i gael llawdriniaeth ar gyfer clun neu ben-glin newydd.
Cafodd llawdriniaethau sydd wedi eu trefnu o flaen llaw eu hoedi yng Nghymru ym mis Mawrth er mwyn caniatáu i ysbytai ganolbwyntio ar y pandemig.
Ond erbyn hyn mae'r mwyafrif o fyrddau iechyd yng Nghymru wedi ailddechrau llawdriniaethau o'r fath mewn sawl maes.
Nawr mae meddygon dylanwadol eisiau i Lywodraeth Cymru sefydlu ardaloedd cwarantin o fewn ysbytai, er mwyn gallu parhau â llawdriniaethau arferol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y byrddau iechyd yn gweithio yn galed i gadw cleifion Covid-19 a chleifion eraill ar wahân.
'Amharu sylweddol'
Fe ddaeth y ffigyrau diweddara i'r amlwg yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru.
Ym mis Medi roedd 69,212 o bobl yng Nghymru yn aros am lawdriniaethau arferol, o'i gymharu â 9,925 yn yr un cyfnod y llynedd.
Dywedodd y byrddau iechyd fod Covid-19 wedi achosi "amharu sylweddol" ond fod y cleifion mwyaf brys yn cael eu blaenoriaethu.
Bwrdd Iechyd Bae Abertawe yw un o'r rhai sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf yn y niferoedd sy'n aros - 22,453 eleni o'i gymharu â 3,262 yn 2019.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda nawr â 15,698 ar y rhestr aros, o'i gymharu â 506 yn 2019 a 772 ym mis Mawrth.
Dywedodd Chris Wilson, llawfeddyg orthopedig yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, fod y ffigyrau yn dorcalonnus ond nid yn syndod.
"Mae llawfeddygon yn teimlo'n rhwystredig - mae yna nifer uchel iawn o gleifion angen y math yma o lawdriniaeth ond nid ydym eto mewn lle i wneud rhywbeth am y sefyllfa ac rydym yn gwybod fod y broblem yn tyfu bob wythnos," meddai.
Dywedodd un dyn o Lanelli ei fod wedi dioddef "loes ofnadwy" ers i'w feddyg teulu ei gyfeirio am glun newydd naw mis yn ôl.
Yn ôl Colin Jones, 71, mae'n parhau i aros am apwyntiad gydag ymgynghorydd.
"Yr oll maen nhw'n' gallu cynnig ar hyn o bryd i'w mesurau lladd poen, ond does yna ddim golwg o ddiwedd i'r peth. Mae'n rhwystredig," meddai.
Mae Coleg Brenhinol Llawfeddygon (CBLl) wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r "ardaloedd gwyrdd" o fewn ysbytai.
Ardaloedd yw'r rhain gyda mesurau llym i reoli symudiad fel bod y risg o ledaenu coronafeirws yn isel.
Byddai hyn wedyn, meddai CBLl, y caniatáu i lawdriniaethau ailddechrau.
Ond dywedodd Richard Johsnon, cyfarwyddwr y coleg yng Nghymru, fod arolwg diweddar wedi dangos mai dim ond 30% o lawfeddygon o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru oedd â mynediad i ardaloedd gwyrdd.
"Fe wnaethon ni gefnogi oedi llawdriniaethau er mwyn caniatáu i'r gwasanaeth iechyd baratoi ar gyfer y pandemig," meddai.
"Ond mae saith mis wedi bod ac nid ydym fel ein bod yn symud ymlaen yn gyflym i fynd i'r afael â'r broblem o gleifion yn aros am lawdriniaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd4 Mai 2020
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2020