Saith chwaraewr heb gap yng ngharfan rygbi Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae saith chwaraewr sydd heb ennill cap wedi cael eu henwi yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau'r hydref.
Mae'r olwyr Callum Sheedy ac Ioan Lloyd, sy'n chwarae dros Fryste, wedi cael eu cynnwys am y tro cyntaf.
Cafodd Sheedy, 24, ei fagu yng Nghaerdydd cyn mynd i Ysgol Millfield yng Ngwlad yr Haf, ac mae'n gymwys i chwarae dros Gymru, Lloegr ac Iwerddon.
Y chwaraewyr eraill sydd heb gapiau ydy'r chwaraewr rheng-ôl, Josh Macleod, y mewnwr Kieran Hardy a'r canolwr Johnny Williams o'r Scarlets, bachwr y Gweilch, Sam Parry, ac asgellwr Caerloyw, Louis Rees-Zammit.
Er nad yw wedi ennill cap, roedd Rees-Zammit yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ddechrau'r flwyddyn.
Enwau cyfarwydd yn ôl
Mae Jonathan Davies, Tomas Francis a Rhys Patchell yn dychwelyd i'r garfan ar ôl gwella o anafiadau hirdymor.
Mae'r cefnwr Liam Williams wedi'i gynnwys hefyd er nad yw wedi chwarae o gwbl ers iddo ddioddef anaf i'w droed yn erbyn Lloegr yn y Chwe Gwlad ym mis Mawrth.
Bydd Cymru'n teithio oddi cartref i herio Ffrainc mewn gêm gyfeillgar ar 24 Hydref cyn croesawu'r Alban ar 31 Hydref - gêm Chwe Gwlad fu'n rhaid canslo oherwydd y pandemig.
Fe fydd Cymru yna'n herio Iwerddon, Georgia a Lloegr mewn cystadleuaeth newydd - Cwpan Cenhedloedd yr Hydref.
Bydd carfan Wayne Pivac yna'n cwblhau'r gystadleuaeth yn erbyn un ai Ffiji, Ffrainc, Yr Eidal neu'r Alban ar 5 Rhagfyr.
Y garfan yn llawn
Blaenwyr
Rhys Carré (Gleision Caerdydd), Wyn Jones (Scarlets), Nicky Smith (Gweilch), Ken Owens (Scarlets), Ryan Elias (Scarlets), Sam Parry (Gweilch), Samson Lee (Scarlets), Dillon Lewis (Gleision Caerdydd), Tomas Francis (Caerwysg), Leon Brown (Dreigiau), Alun Wyn Jones (Gweilch), Will Rowlands (Wasps), Jake Ball (Scarlets), Seb Davies (Gleision Caerdydd), Cory Hill (Gleision Caerdydd), Aaron Wainwright (Dreigiau), Ross Moriarty (Dreigiau), Taulupe Faletau (Caerfaddon), Josh Navidi (Gleision Caerdydd), Justin Tipuric (Gweilch), Josh Macleod (Scarlets).
Olwyr
Rhys Webb (Gweilch), Gareth Davies (Scarlets), Kieran Hardy (Scarlets), Dan Biggar (Northampton), Rhys Patchell (Scarlets), Callum Sheedy (Bryste), Owen Watkin (Gweilch), Nick Tompkins (Dreigiau), Jonathan Davies (Scarlets), Johnny Williams (Scarlets), George North (Gweilch), Josh Adams (Gleision Caerdydd), Louis Rees-Zammit (Caerloyw), Jonah Holmes (Dreigiau), Leigh Halfpenny (Scarlets), Ioan Lloyd (Bryste), Liam Williams (Scarlets).
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2020
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd15 Mai 2020