Cymru i chwarae Yr Alban a Georgia yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Parc y ScarletsFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Cymru yn chwarae dwy gem ym Mharc y Scarlets

Fe fydd tîm rygbi Cymru yn cynnal eu dwy gêm agoriadol yn yr hydref ym Mharc y Scarlets, Llanelli.

Fe fydd y gêm yn erbyn yr Alban, sydd wedi ei hail-drefnu o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, yn cael ei chynnal yn Llanelli ar 31 Hydref.

Yna, bydd y gêm yng Nghwpan y Cenhedloedd yn erbyn Georgia ar yr un maes ar 21 Tachwedd.

Dyw Undeb Rygbi Cymru heb ddatgelu lle y bydd Cymru yn chwarae'r ddwy gêm gartref arall.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gêm gartref olaf Cymru yn erbyn yr Alban yn Stadiwm Principality yn Nhachwedd 2018

Y disgwyl yw y bydd y ddwy gêm yn Llanelli y tu ôl i ddrysau caeedig.

Ond dywed yr Undeb eu bod yn fodlon ymchwilio i weld pe bai un o'r ddwy gêm yn gallu cael eu defnyddio fel prawf ar gyfer torfeydd, pe bai canllawiau presennol y llywodraeth yn newid.

Yn ôl yr undeb mae ganddynt yr opsiwn o chwarae eu dwy gêm arall yn yr hydref yn Llundain - yn erbyn Lloegr ar 28 Tachwedd, ac yna gem arall ar 5 Rhagfyr.

Dyw'r undeb methu chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm Principality, gan fod y lleoliad yn parhau i gael ei ddefnyddio fel ysbyty dros dro.

Yn gynharach eleni dywedodd prif weithredwr yr Undeb Martyn Phillips y gallant golli £50m o incwm, pe na bai Cymru yn cynnal gemau rhyngwladol yr hydref, a gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad yn 2021.