Pandemig wedi 'effeithio'n ddwys' ar fywydau menywod
- Cyhoeddwyd

Roedd cyfrifoldebau gofalu menywod wedi cynyddu fwy na dynion adeg y pandemig, yn ôl yr ymchwil
Mae menywod ar draws Cymru yn dweud bod y pandemig wedi effeithio'n ddwys ar bob agwedd o'u bywydau, a bod nifer yn pryderu am eu gyrfaoedd o ganlyniad.
Yn ôl ymchwil gan elusen, roedd y cyfnod clo yn anoddach i fenywod na dynion am eu bod yn fwy tebygol o fod yn gwneud gwaith â chyflog isel neu ar gontractau ansicr, ac hefyd ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn weithwyr allweddol.
Dangosodd yr ymchwil hefyd bod menywod wedi ysgwyddo'r rhan fwyaf o ofal plant ac addysgu gartref yn ystod y cyfnod hwnnw.
Y gred yw bod hynny wedi effeithio'n uniongyrchol ar eu gallu i weithio, a bod llawer bellach yn pryderu am effaith ar eu gyrfa yn y tymor hir.
Mae elusen Chwarae Teg, a gomisiynodd y gwaith ymchwil, dolen allanol, yn argymell bod llywodraethau Cymru a'r DU yn sicrhau nad yw unrhyw fesurau neu bolisïau sy'n ymateb i'r pandemig yn arwain at wahaniaethu rhwng menywod a dynion.
Maen nhw hefyd yn galw am gefnogaeth ariannol i unrhyw un sydd wedi cwtogi eu horiau neu wedi cymryd absenoldeb di-dâl oherwydd cyfrifoldebau gofalu yn ystod unrhyw gyfnod clo, a hefyd i ymestyn ffyrlo.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o effaith negyddol y pandemig ar rai grwpiau, yn cynnwys menywod, ac y byddant "wrth galon" yr ymateb gan weinidogion.

'Doedd gen i ddim cytundeb ffurfiol'

Roedd Gemma, nid ei henw iawn, yn gweithio 16 awr yr wythnos mewn archfarchnad yng Ngheredigion cyn i'r cyfyngiadau gael eu cyflwyno ym mis Mawrth.
Mae ei stori hi'n cyd-fynd gyda llawer o'r pryderon a gafodd eu darganfod gan y tîm ymchwil.
"Pan ddaeth y cyhoeddiad bod yr ysgolion yn mynd i gau ym mis Mawrth fe wnes i banicio'n llwyr," meddai.
"Roedd fy mab yn ei flwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd, a gan fy mod i'n riant sengl do'n i ddim yn gallu ei adael adref ar ei ben ei hun er mwyn mynd i'r gwaith. Cyn daeth y cyfyngiadau ar deithio i rym nes i ei anfon yn gyntaf at fy chwaer, ac yna at fy mrawd a fy rhieni.
"Nes i ofyn i fy rheolwyr a oeddwn i'n gallu cael fy rhoi ar y cynllun ffyrlo pan glywes i amdano fe, ond dywedon nhw wrtha i oedd nad oedden nhw'n gwybod dim byd, a bydde'n rhaid i mi wneud y gwaith ymchwil fy hun.
"Nes i ffonio'r HMRC a holi beth oedd yn bosib, ond roedden nhw'n dweud mai cyfrifoldeb fy nghyflogwyr oedd hi. Felly ro'n i'n teimlo fy mod i mewn sefyllfa amhosib.
"Cafodd fy oriau eu cwtogi hefyd i wyth awr yr wythnos, ac fel rhiant sengl o'dd hynny mor anodd.
"Wrth i mi holi ymhellach fe nes i ddarganfod nad oedd gen i gytundeb ffurfiol gyda fy nghyflogwyr o gwbl, felly do'n i ddim yn gallu gwneud dim byd am y peth.
"Yr un pryd doedd fy mab ddim yn gallu deall pam nad oedd e'n gallu dod adref ata'i, ac fe welais i newid mawr yn ei ymddygiad. Fe aeth i mewn i'w gragen.
"Dyna pryd nes i feddwl bod rhaid i mi wneud rhywbeth. Fe welais i swydd glanhau gyda'r cyngor yn cael ei hysbysebu, a diolch byth mi ges i hi gan ddechrau ym mis Medi. Mae hynny wedi rhoi rhywfaint o sicrwydd i mi.
"Heblaw am y swydd newydd yma, fe fyddai'n anodd meddwl sut fydden i'n dygymod petai cyfnod clo arall yn dod."

Beth oedd y prif ddarganfyddiadau?
Cafodd dros 1,000 o fenywod eu holi ym mis Mai a Mehefin 2020 gan Dr Laura Paterson o elusen Chwarae Teg.
Dywedodd nifer eu bod yn poeni am ddal Covid-19 yn eu gwaith, a'u bod yn pryderu am ddal yr haint wrth i weithleoedd ailagor.
Dywedodd nifer hefyd eu bod yn bryderus am eu dyfodol yn y gweithle a'u gyrfa oherwydd ffyrlo, diweithdra, a'r gofal ychwanegol ac addysgu gartref y maent wedi'u gwneud yn ystod y pandemig.
Dywed y gwaith ymchwil hefyd bod cyfrifoldebau gofalu menywod wedi cynyddu tra bod ysgolion a lleoliadau gofal plant wedi bod ar gau, ac nad oedd gofal plant anffurfiol, fel gan aelodau eraill o'r teulu, ar gael.

Mae pedwar o bob pump person sy'n gweithio ym meysydd iechyd neu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn fenywod
Dim ond 33.6% o fenywod ar ffyrlo a oedd yn credu y byddant yn dychwelyd i'w hen swyddi, tra bod eraill ar ffyrlo yn dweud ei fod wedi gadael "bwlch yn eu hunaniaeth yn y gweithle".
Roedd ambell un arall wedi dweud wrth yr ymchwilwyr bod eu cyflogwyr wedi gwrthod eu rhoi nhw ar y cynllun, gan eu rhoi nhw o dan bwysau mawr.
Er bod gweithio o gartref wedi bod yn brofiad unig i rai menywod, dywedodd eraill sydd â chyflyrau iechyd hirdymor bod cael gweithio o adref wedi cael gwared ar rwystrau yr oedden nhw'n arfer eu hwynebu.
Diffyg gwerthfawrogiad
Dywedodd prif weithredwr yr elusen bod y pandemig "wedi datgelu difrifoldeb anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac wedi'i waethygu".
Ychwanegodd Cerys Furlong bod y pandemig hefyd wedi "datgelu dibyniaeth ein cymdeithas ar waith sy'n cael ei wneud yn anghymesur gan fenywod; fel gofalwyr di-dâl i blant ac aelodau o'r teulu, ac fel gweithwyr ym meysydd gofal, gwaith cymdeithasol, lletygarwch, manwerthu, glanhau a mwy".
"Ers llawer yn rhy hir, nid yw menywod yn y rolau hyn wedi cael eu gwerthfawrogi, ac wrth i ni adfer o'r argyfwng hwn mae angen i ni ailystyried y gwaith hwn fel rhywbeth sy'n greiddiol i'n heconomi a'n cymunedau."
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi "gweithio'n agos" gyda phobl sydd wedi eu heffeithio gan Covid-19 yng Nghymru.
"Rydyn ni'n ymwybodol o effaith negyddol y pandemig ar rai grwpiau, yn cynnwys menywod, a byddant wrth galon ein hymdrechion wrth ymateb i'r pandemig a buddsoddi yn adferiad Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd16 Medi 2020