Y Gynghrair Genedlaethol: Solihull Moors 1-0 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
James BallFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

James Ball sgoriodd y gôl fuddugol i Solihull

Fe gollodd Wrecsam am y tro cyntaf yn y gynghrair y tymor yma yn erbyn Solihull Moors nos Fawrth.

Rhoddodd beniad James Ball ar ôl yr egwyl driphwynt cyntaf y tymor i'r tîm cartref.

Paul Rutherford gafodd gyfle gorau Wrecsam pan aeth ei ymdrech dros y golwr, taro'r trawst ond doedd y bêl heb groesi'r llinell gôl.

Daeth Elliott Durrell yn agos i unioni'r sgôr yn hwyr i'r ymwelwyr ond aeth ei ergyd heibio'r gôl.