Anrhydeddau'r Frenhines am ymdrechion i atal Covid
- Cyhoeddwyd
Mae rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines eleni'n cydnabod cyfraniad nifer o unigolion i'r ymateb i'r argyfwng coronafeirws yng Nghymru.
Cafodd yr anrhydeddau, sydd fel arfer yn cael eu cyhoeddi ym mis Mehefin, eu gohirio eleni er mwyn ystyried enwebiadau am ymdrechion ers dechrau'r pandemig.
Mae'r rhestr yn cwmpasu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ac unigolion sydd wedi helpu gwneud bywydau eraill yn haws o fewn eu cymunedau yn sgil y cyfyngiadau Covid-19.
Mae tri o gymeriadau amlycaf byd rygbi Cymru - Alun Wyn Jones, Warren Gatland a Gareth Thomas - hefyd yn cael anrhydeddau ynghyd â'r soprano, Rebecca Evans, a'r cyn-AS Llafur, David Hanson.
Ymhlith yr unigolion sy'n cael eu hurddo am eu gwasanaeth i iechyd cyhoeddus mae'r gwyddonydd clinigol ymgynghorol, Dr Catherine Moore sy'n cael MBE.
O ganlyniad iddi sylwi'n gynnar iawn arwyddocâd y feirws newydd, roedd wedi sicrhau samplau rhyngwladol i'w hastudio yn labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru cyn i'r achos cyntaf gael ei gofnodi yn y DU.
Mae'r rheolwr ymchwil nyrsio o Gaerdydd, Jade Cole yn cael Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) am ei gwasanaeth i'r GIG ac ymchwil gofal critigol.
Am fis cyfan, am fod cydweithwyr yn sâl, hunan-ynysu, ar gyfnod mamolaeth neu ar ddyletswyddau eraill, hi oedd yn unig aelod o'i thîm oedd yn gallu cynnal treialon clinigol yn yr uned gofal dwys, gan dywys 38 o gleifion Covid-19 trwy arbrawf adferiad.
Roedd yna sylw byd-eang i'r arbrawf, a amlygodd manteision rhoi'r cyffur Dexamethasone, yn arbennig i gleifion difrifol wael fu'n rhaid cael help peiriant i anadlu.
"Mae'n gyffur eitha' cyffredin i ni ond roedd ei ddefnyddio yn y ffordd yna at Covid-19 a gallu profi'n derfynol ei fod yn helpio cleifion difrifol wael i oroesi yn wych," dywedodd.
Ychwanegodd fod cael cydnabyddiaeth pan fod gymaint o gydweithwyr yn troi pob carreg i helpu cleifion "yn wirioneddol sbesial" ond ei bod yn derbyn yr anrhydedd ar ran ei holl gydweithwyr yn y bwrdd iechyd.
"Does neb yn y GIG yn gwneud y gwaith i gael anrhydeddau," meddai. "Ry'n ni'n ei wneud e oherwydd ry'n ni'n caru ein gwaith, ry'n ni'n malio am ein cleifion, ry'n ni'n malio am eu teuluoedd a ry'n ni jest eisiau i bobl wella."
Mae'r Dr Eleri Davies, Pennaeth Rhaglen Heintiau Cysylltiedig Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cael MBE am ei chyfraniad i wasanaethau iechyd.
Un arall sy'n cael BEM yw Julie Cook o Aberdâr, sy'n gweithio yn archfarchnad Asda'r dref, am ei hymdrechion i sicrhau cyflenwadau bwyd hanfodol i gartref gofal lleol.
Mae hefyd wedi cefnogi ysbytai lleol trwy roi nwyddau a danteithion i godi ysbryd aelodau staff, cefnogi unigolion bregus yn ei hamser hamdden, a gwisgo fel cwningen i ddosbarthu wyau Pasg i blant rhieni oedd yn fregus neu'n hunan-ynysu.
"Roedd y lockdown yn anodd i gymaint o bobl," meddai. "Ro'n i eisiau helpu gymaint o bobol ag y gallwn ni ond hefyd eisiau rhoi gwên ar wynebau pobl.
"Doeddwn i ddim yn gallu anwybyddu unrhyw un oedd mewn trafferthion jest am ein bod mewn lockdown, felly nes i drio bod mor normal ag y gallwn i."
Mae capten rygbi Cymru, Alun Wyn Jones yn cael OBE a'r cyn brif hyfforddwr cenedlaethol, Warren Gatland, yn cael CBE am eu gwasanaeth i'r byd rygbi.
"Ro'n i'n gyndyn i ddechrau i dderbyn y fath anrhydedd yn y cyfnod heriol yma pan mae gymaint o bobl yn gwneud gymaint o ddaioni i'r gymuned ac yn fwy haeddianol," meddai Alun Wyn Jones.
"Ond rwy'n gweld hwn fel cydnabyddiaeth o'r holl bobl sydd wedi fy helpu trwy fy ngyrfa."
Dywedodd Warren Gatland fod yr anrhydedd yn "cydnabod pawb sy'n rhan o rygbi Cymru a phopeth wnaethon ni gyflawni gyda'n gilydd yn ystod fy nghyfnod yn brif hyfforddwr.
"Rwy'n teimlo'n ffodus iawn i allu gwneud rhywbeth rwy'n ei garu bob dydd, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi yn ystod fy ngyrfa."
Mae cyn-gapten Cymru, Gareth Thomas yn cael CBE am ei gyfraniad i rygbi ac i'r maes iechyd. Datgelodd y llynedd ei fod yn byw gyda HIV ac mae wedi mynd ati ers hynny i geisio chwalu'r stigma ynghylch y cyflwr.
Mae David Hanson, AS Delyn rhwng 2002 ac etholiad cyffredinol 2019 a chyn-Weinidog Carchardai yng ngweinyddiaeth Tony Blair, yn cael ei urddo'n farchog am ei gyfraniad i'r byd gwleidyddol.
Mae'r cerddor Alun Guy yn cael Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei wasanaeth i'r meysydd cerdd, iaith a diwylliant.
Dyna'r anrhydedd hefyd yn achos Emma Picton-Jones o Hwlffordd. Sefydlodd elusen y DPJ Foundation i helpu pobl mewn cymunedau gwledig sydd â phroblemau iechyd meddwl, wedi i'w gŵr Daniel ladd ei hun.
Am ei gyfraniad i'r byd darlledu yng Nghymru mae Euryn Ogwen Williams yn cael OBE, ac mae'r soprano Rebecca Evans yn derbyn CBE am ei gwasanaeth i faes y celfyddydau.
Mae Linda Tomos, llyfrgellydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn cael CBE am ei chyfraniad i ddiwylliant Cymru.
Mae'r Hybarch Eileen Davies o Lanllwnni, Sir Gâr yn derbyn yr MBE am wasanaeth i ffermio yn y gorllewin.
Hi yw yw un o sylfaenwyr Tir Dewi yr elusen sy'n cynnig cymorth i ffermwyr sy'n wynebu amseroedd caled.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2019