Anrhydeddu Gareth Thomas am godi ymwybyddiaeth o HIV

  • Cyhoeddwyd
Gareth a StephenFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Thomas yn derbyn cefnogaeth yn ystod triathlon Ironman Cymru eleni

Bydd y cyn-chwaraewr rygbi Gareth Thomas yn cael ei anrhydeddu am ei waith o godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr HIV.

Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd ei fod yn HIV positif, gan ddweud ei fod am "dorri stigma" y cyflwr.

Bydd yn derbyn Gwobr Ysbrydoliaeth Chwaraeon yng ngwobrau Pride of Sport y Daily Mirror mewn seremoni yn Llundain nos Iau.

Yn 2009, ef oedd y chwaraewr rygbi proffesiynol cyntaf i gyhoeddi ei fod yn hoyw.

Dywedodd trefnwyr y gwobrau fod Thomas, 45, yn ysbrydoliaeth i'r 96,000 o bobl sy'n byw gyda'r cyflwr yn y DU.

Fel y personoliaeth chwaraeon cyntaf i gyhoeddi ei fod yn HIV positif, dywedodd y trefnwyr ei fod wedi llwyddo i frwydro'r stigma sy'n bodoli am HIV.

Yn dilyn darlledu ei raglen deledu 'Gareth Thomas: HIV and Me' ym mis Medi, dywedodd yr elusen The Terrence Higgins Trust eu bod wedi derbyn y nifer fwyaf o ymholiadau am eu profion hunan-asesu am HIV erioed.

Yn gyn-gapten y Llewod ac yn un o garfan rygbi Cymru i gipio'r Gamp Lawn am y tro cyntaf mewn 27 mlynedd, mae'n dal i fod mor weithgar ym myd chwaraeon ag erioed.

Ym mis Medi fe lwyddodd i gwblhau triathlon Ironman Sir Benfro mewn 12 awr a 18 munud.