Pro14: Dreigiau 26 - 18 Zebre

  • Cyhoeddwyd
Jordan Williams yn sgorio cais cyntaf y nosonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Jordan Williams yn sgorio cais cyntaf y noson

Fe wnaeth dau gais gan y cefnwr Jordan Williams helpu'r Dreigiau i sicrhau pwynt bonws wrth guro Zebre yn Rodney Parade.

Roedd yna geisiau gan Jamie Roberts a'r bachwr Elliot Dee i sicrhau buddugoliaeth gyntaf y rhanbarth yn y Pro14 y tymor hwn.

Ond roedd perfformiad yr ail hanner ddim cystal â'r 40 munud agoriadol gan roi pwysau diangen ar y tîm cartref.

Sgoriodd Federico Mori a Giulio Bisegni geisiau i'r Eidalwyr, ac fe ychwanegodd ciciau Carlo Canna wyth o bwyntiau.

Roedd pedwar o giciau Sam Davies ar ran y tîm cartref yn aflwyddiannus, ond fe sgoriodd gyda dwy gic gosb hwyr.

Collodd Zebre gyfle i gipio pwynt bonws eu hunain wedi trosiad aflwyddiannus gan Antonio Rizzi.