Pump o chwaraewyr Iwerddon allan o gêm Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae pump yn rhagor o chwaraewyr Gweriniaeth Iwerddon allan o'r gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Cymru ddydd Sul ar ôl i un ohonynt gael prawf positif i coronafeirws.
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon fod un chwaraewr, sydd heb ei enwi, wedi profi'n bositif ddydd Gwener. Cafodd yr un chwaraewr brawf dydd Llun oedd yn negyddol.
Mae pedwar aelod arall o'r garfan oedd mewn cysylltiad agos â'r chwaraewyr hefyd wedi cael gwybod na fyddant yn cael chwarae dydd Sul.
Mae'r Weriniaeth eisoes heb Aaron Connolly ac Adam Idah oherwydd achos yn ymwneud â Covid.
Mae tîm Ryan Giggs yn wynebu Iwerddon yn Nulyn yn dilyn colled 3-0 yn erbyn Lloegr yn Wembley ddydd Iau.
Fe fydd Aaron Ramsey yn dychwelyd i rengoedd Cymru i wynebu Iwerddon.
Bu'n rhaid iddo golli'r gêm yn erbyn Lloegr oherwydd ei fod yn hunan-ynysu wedi i ddau aelod o staff Juventus gael profion positif am Covid-19.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2020