Covid: Dwy farwolaeth arall yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Cafodd dwy farwolaeth arall a oedd yn gysylltiedig â Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru, yn ôl ffigyrau diweddara Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Roedd yna 467 o unigolion wedi profi'n bositif.
Mae'n golygu fod cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru wedi cyrraedd 1,669 a bod 30,121 achos positif wedi cael ei gadarnhau.
O'r achosion positif roedd yna 46 yng Nghaerdydd, gyda 42 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cafodd 36 o achosion eu cofnodi yn Rhondda Cynon Taf, 33 yn Sir Fflint, ac 32 yn Abertawe.
Roedd yna 29 o achosion yn Wrecsam, a 28 yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Cyfraddau uchel
Yng Nghonwy roedd yna 18 achos, gyda 16 yng Ngwynedd.
Merthyr Tudful sydd ar gyfradd uchaf o bobl wedi eu heintio dros gyfnod o saith diwrnod sef 220.5 ym mhob 100,000 o'r boblogaeth.
Yn Sir Fflint y ffigwr yw 164, gyda 161.8 yn Wrecsam a 151.3 yng Nghaerdydd.