JJ Williams, un o gewri rygbi Cymru, wedi marw yn 72 oed
- Cyhoeddwyd
Mae un o sêr rygbi Cymru - JJ Williams - wedi marw yn 72 oed.
Roedd yr asgellwr yn cael ei ystyried fel un o chwaraewyr gorau ei wlad yn ystod cyfnod euraidd yr 1970au.
Sgoriodd 12 o geisiau mewn 30 prawf wrth i Gymru ennill pedair pencampwriaeth Pum Gwlad yn y cyfnod hwnnw, gan gynnwys dwy Gamp Lawn.
Aeth ar ddwy daith gyda'r Llewod, gan sgorio pum cais mewn saith gêm brawf.
Roedd hefyd yn rhedwr talentog - fe gynrychiolodd Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 1970.
Mae tri o blant JJ Williams hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn athletau, gan gynnwys ei fab Rhys, a oedd yn bencampwr Ewropeaidd dros y clwydi.
Ganwyd John James Williams yn Nantyffyllon ar 1 Ebrill, 1948 a mynychodd Ysgol Ramadeg Maesteg.
Cynrychiolodd Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 1970 - rhedodd 100m mewn 10.6 eiliad - fel John Williams.
Ond byddai'n cael ei adnabod yn ddiweddarach fel JJ er mwyn osgoi dryswch â'r John Williams arall yn nhîm rygbi Cymru, y cefnwr chwedlonol JPR Williams.
Chwaraeodd Williams i Ben-y-bont ar ddechrau ei yrfa rygbi cyn ymuno â Llanelli yn 1972.
Enillodd ei gap rhyngwladol cyntaf y flwyddyn ganlynol, cyn cael ei enwi ar gyfer taith chwedlonol y Llewod i Dde Affrica yn 1974.
Yn ystod y daith honno, chwaraeodd y Llewod 22 gêm heb golli - gan ennill tair a chael un gêm brawf gyfartal yn erbyn y Springboks - gyda Williams yn sgorio dau gais yn yr ail a'r trydydd prawf.
Daeth â'r llen i lawr ar ei yrfa mewn steil, gan sgorio cais yn ei gêm olaf i helpu Cymru i guro Lloegr a chipio'r Pum Gwlad yn 1979.
Ar ôl ymddeol, gwnaeth Williams enw iddo'i hun fel sylwebydd dadleuol ar rygbi rhyngwladol a domestig ar gyfer BBC Cymru.
Roedd Williams hefyd yn rhedeg cwmni paentio masnachol a diwydiannol wedi'i leoli ger Pen-y-bont.