Canolfan Bedwyr yn 'rhan bwysig o strwythur Bangor'

  • Cyhoeddwyd
Canolfan BedwyrFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Canolfan Bedwyr wedi'i leoli yn Neuadd Dyfrdwy ym Mhrifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi cadarnhau y bydd Canolfan Bedwyr yn elfen bwysig o'i strwythur newydd.

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth Prifysgol Bangor gadarnhau bod cynnig ar y gweill i "drosglwyddo rhai o swyddogaethau" Canolfan Bedwyr i rannau eraill o'r brifysgol.

Mae Canolfan Bedwyr yn ganolfan ieithyddol sy'n llunio polisïau ieithyddol a strategaethau i ddatblygu'r brifysgol a sefydliadau allanol.

Y bwriad oedd "ehangu capasiti ymchwil" a "gwreiddio'r Gymraeg" ond roedd yna ofnau y gallai'r gael effaith negyddol ar statws a gwaith y ganolfan.

Roedd rhai yn ofni y byddai'r newidiadau "yn chwalu'r ganolfan" yn eu plith yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Ann Hopcyn

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Ann Hopcyn

Wrth sôn am y pryderon dywedodd yr Athro Andrew Edwards, sy'n Ddirprwy Is-ganghellor: "Rydym yn hynod ffodus ein bod ni'n gallu manteisio ar yr arbenigedd sydd gennym yng Nghanolfan Bedwyr a thros y blynyddoedd nesaf bydd yr arbenigedd hwnnw'n parhau i'n cynorthwyo i gyflawni nodau strategaeth iaith Gymraeg y Brifysgol, sydd ar hyn o bryd yn cael ei hadolygu fel rhan o'n gwaith cynllunio strategol."

Y bwriad yw cyfuno swydd Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr â rôl newydd Deon Datblygu'r Gymraeg a thrwy wneud hynny "rydym yn sicrhau y bydd Canolfan Bedwyr yn rhan greiddiol o weithgareddau addysgu ac ymchwil y Brifysgol ynghyd â'i gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ehangach y tu hwnt i'r Brifysgol," meddai Dr Edwards.

Ffynhonnell y llun, David Stowell/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

"Rydym yn hynod o falch o fanteisio ar arbenigedd Canolfan Bedwyr,' medd y Brifysgol

'Ehangu cylch gwaith'

Ychwanegodd yr Athro Enlli Thomas, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros y Gymraeg: "Mae gan Brifysgol Bangor hanes hir o ragoriaeth mewn ymchwil a gwasanaethau sy'n ymwneud â'r Gymraeg, ac mewn ymchwil sy'n ymwneud â'r cyd-destun dwyieithog y mae'r Gymraeg yn bodoli o'i fewn, ac mae Canolfan Bedwyr wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu'r elfennau hynny."Rydym yn ehangu cylch gwaith Canolfan Bedwyr i gryfhau ymhellach ein cefnogaeth i'r Gymraeg ym mhob rhan o'r Brifysgol.

Ychwanegodd Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr: "Mae chwarter canrif ers sefydlu Canolfan Bedwyr, a thros y cyfnod hwnnw mae wedi bod ar flaen y gad wrth hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor a thu hwnt.

"Wrth i'r Brifysgol fynd ati i adnewyddu ei strategaeth iaith Gymraeg, edrychwn ymlaen at chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu'r strategaeth honno".